Datganiad ynghylch y terfysgoedd hiliol ac Islamoffobig ar draws y DU.

Yn ateb, rydym yn gofidio’n enbyd am y cynnydd diweddar mewn hiliaeth ac Islamoffobia ar draws y DU.  

Yn ogystal â bod yn ymosodiadau ar unigolion ar sail eu hil, eu hethnigrwydd neu’u ffydd, mae’r gweithredoedd atgas hyn yn ymosodiadau hefyd ar y ddynoliaeth yr ydym yn ei rhannu ac ar y gwerthoedd sy’n annwyl i ni. 

Rydym yn cydnabod yr effaith bellgyrhaeddol y mae’r terfysgoedd yn ei chael ar ymdeimlad ein cwsmeriaid o ddiogelwch a chroeso yn eu cartrefi, eu cymunedau a’u gweithleoedd. Mae hynny’n hollol annerbyniol. 

Rydym am ddatgan yn glir: nid oes lle yma i unrhyw fath o wahaniaethu. Os yw’r digwyddiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu ar rywrai yr ydych yn eu hadnabod, rydym am i chi wybod ein bod yn eich cefnogi. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol lle gall pawb, waeth beth fo’u cefndir, fyw’n rhydd a bod yn driw iddynt eu hunain, heb ofni trais nac achosion o wahaniaethu yn eu herbyn. 

Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, byddem yn eich annog i roi gwybod i’r awdurdodau amdani. 

Gallwn eich helpu i roi gwybod i’r heddlu am drosedd ac i fynd i’r llys, ond nid ydym yn rhoi pwysau arnoch i wneud hynny. Hyd yn oed os nad oes angen cefnogaeth arnoch chi, mae’n dal yn bwysig ein bod ni yn gwybod pa droseddau sy’n cael eu cyflawni ac ym mhle. 

I roi gwybod i’r awdurdodau am drosedd gasineb, gallwch: 

  • Ffonio’r heddlu yn uniongyrchol drwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl, neu ddeialu 101 os nad yw’n argyfwng. 
  • Ffonio 0300 30 31 982 (sef rhif ffôn y gallwch ei ddeialu AM DDIM o linell dir ac o ffôn symudol) er mwyn cysylltu’n uniongyrchol â Cymorth i Ddioddefwyr. Bydd galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol, a gallwch ddewis aros yn ddienw.  

Cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Mae croeso i chi gysylltu â’ch Cydlynydd Tai neu ag unrhyw aelod o dîm ateb i ofyn am help. 

Cyhoeddwyd: 08/08/2024