Digwyddiad Lles Byw’n Annibynnol

Yn Kensington Court SA73 1GB

Ddydd Iau, 19 Medi 2024

1:45pm – 4:30pm 

Diben y digwyddiad: Casglu eich safbwyntiau ynghylch beth sy’n bwysig am fywyd yn eich cartref a ddarperir gan ateb. Dyma gyfle euraidd i chi gwrdd â staff ateb wyneb yn wyneb, cyflwyno eich blaenoriaethau i ateb a mwynhau te bwffe hyfryd ar yr un pryd.

  • Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid neu Dave Tovey, Pennaeth Cwsmeriaid: yn agor y digwyddiad ac yn cyflwyno diweddariad gan ateb
  • Allyn Pritchard, Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Arfaethedig: yn rhoi cyflwyniad ar newid i ffynonellau ynni carbon isel
  • Gweithgareddau grŵp ar eich eistedd a sesiwn holi ac ateb
  • Te a choffi wrth gyrraedd
  • Bwffe llawn

Mae’r digwyddiad hwn yn addas i’r bobl ganlynol:

  • Cwsmeriaid ateb sy’n byw yng nghynlluniau ateb
  • Cwsmeriaid ateb sy’n cael gwasanaeth cymorth cymunedol ateb
  • Cwsmeriaid ateb sy’n defnyddio larymau cymunedol 

Does dim angen i chi gadw lle, ond byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i’ch Cydlynydd Byw’n Annibynnol os ydych yn bwriadu bod yn bresennol.

Mae’r lleoliad yn hygyrch.

Os hoffech roi gwybod i ni am unrhyw anghenion ychwanegol a allai fod gennych ar gyfer y digwyddiad hwn, e.e. os oes arnoch angen dolen glyw / gwybodaeth mewn print bras, dylech gysylltu ag ateb cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae ateb yn cynnig dewisiadau o ran bwyd: Os hoffech roi gwybod i ni am unrhyw ddewisiadau o ran bwyd, dylech gysylltu ag ateb erbyn 4pm ar 12/09/24.

Mae ateb yn cynnig help i ofalwyr a phobl y mae arnynt angen gofal, er mwyn i chi allu mynychu digwyddiadau.

Mae ateb yn cynnig help gyda theithio: Os hoffech help gyda gofal neu deithio, dylech gysylltu ag ateb erbyn 4pm ar 06/09/24.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu ag Ailinor Evans: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]

neu Amy Williams: 01437 763688 / 07917 425817 / [email protected]

ateb: Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

 

Cyhoeddwyd 20/08/24