Mis Hanes Pobl Ddu 2024

Adennill y Naratif:

Anrhydeddu’r Gorffennol, Llunio’r Dyfodol

Mis Hanes Pobl Ddu yw mis Hydref, ac mae’n adeg pan fyddwn yn clodfori cyflawniadau pobl Ddu. Y thema eleni yw ‘Adennill y Naratif’, sy’n wahoddiad i gymryd rhan yn y gwaith o lywio sut y caiff straeon eu hadrodd. Mae’n rhoi sylw i straeon anghyfarwydd, arwyr tawel ac unigolion cyffredin sydd wedi creu argraff ymhlith pobl Ddu.

Uzo Iwobi

Mae Uzo Iwobi yn hanu o Nigeria, a chymhwysodd yn fargyfreithiwr ac yn gyfreithiwr. Ar ôl symud i Gymru, sylweddolodd yn fuan y byddai’n wynebu llawer o rwystrau. Er ei chymwysterau, dywedwyd wrthi am “anghofio bod yn gyfreithiwr”, a hynny nid oherwydd ei sgiliau ond oherwydd lliw ei chroen. Dywedodd y ganolfan waith wrthi, “Dyw pobl Ddu ddim yn cael cyfleoedd”, gan awgrymu y dylai “gael swydd ar lefel is”.

Er i hynny ddigalonni Uzo, gwrthododd ildio. Sefydlodd Race Council Cymru er mwyn cysylltu pobl Ddu eraill yn ei chymuned â’i gilydd ac er mwyn eu cynorthwyo. Yn sgil ei hymroddiad i greu newid, bu’n gweithio am naw mlynedd fel darlithydd yn y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Abertawe. Yna, ymunodd â Heddlu De Cymru a chafodd ei phenodi i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol Heddluoedd, yn y Swyddfa Gartref.

Bu Uzo hefyd yn gwasanaethu gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol tan 2007, ac yn 2008 dyfarnwyd OBE iddi i gydnabod ei chyfraniadau anhygoel i gymunedau yn y de.

Gwyliwch y fideo isod i glywed stori Uzo yn ei chyfanrwydd:

https://www.youtube.com/watch?v=QvgirWT8MWM

 

Grymuso ac Addysgu’r Genhedlaeth Nesaf

Mae’r mis hwn yn fwy na dathliad yn unig — mae a wnelo ag adennill y naratif sydd wedi’i anwybyddu neu’i gamgyfleu.

Drwy rannu hanes yn ei gyfanrwydd, rydym yn trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf waddol y mae cydnerthedd, disgleirdeb a chyfoeth diwylliannol yn perthyn iddo. O’r arloeswyr a newidiodd y byd i’r artistiaid a gyffyrddodd â’n calon, mae hanes pobl Ddu yn rhan annatod o wead hanes y byd.

I bobl ifanc, mae’n eu hatgoffa eu bod yn rhan o waddol y gellir ymfalchïo ynddo, ac mai nhw hefyd fydd yn creu eu hyfory. Mae deall eu gorffennol yn eu helpu i ddychmygu dyfodol lle bydd eu lleisiau nhw’n arwain y ffordd.

Yng Ngrŵp ateb, rydym yn credu mewn gweithredu i greu dyfodol mwy cynhwysol a theg. Mae ein Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cwrdd bob chwarter ac yn agored i’r cyhoedd. Ei nod yw addysgu pobl, ysbrydoli newid a herio diwylliannau. Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn ein cyfarfod nesaf ddydd Iau 7 Tachwedd 2024 — dewch i weld sut yr ydym yn gweithio i wneud gwahaniaeth.

I gael gwybod mwy am ein Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ewch i’n tudalen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Gwneud Gwahaniaeth

Yn rhan o’n hymrwymiad, rydym yn falch o ddweud ein bod wedi llofnodi adduned Gweithredu, Nid Geiriau Tai Pawb ac rydym wedi mabwysiadu Rheol Rooney i sicrhau bod pobl Ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol sy’n ymgeisio am swyddi ac sy’n bodloni’r meini prawf yn cael cyfweliad. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn credu mewn creu timau sydd mor amrywiol â’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu eleni, gadewch i ni anrhydeddu cyfraniadau, cyflawniadau a threftadaeth gyfoethog pobl Ddu yn y DU, gan fyfyrio ar yr un pryd ynghylch y gwaith y mae angen ei wneud o hyd i sicrhau dyfodol mwy cynhwysol. Yng Ngrŵp ateb, rydym wedi ymrwymo o hyd i lunio dyfodol lle gall pawb ffynnu.

Gadewch i ni barhau i ddysgu, tyfu a chreu dyfodol sy’n perthyn i bob un ohonom.

I ddysgu mwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, anfonwch ebost i [email protected] neu ffoniwch ni ar 0800 854 568.

Cyhoeddwyd 01/10/2024