Eleni mae ateb yn falch o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref. Mae thema 2024, sef “Y rhan yr ydym yn ei chwarae”, yn tynnu sylw at y ffyrdd gwerthfawr y mae pobl hŷn yn cyfrannu i’n cymunedau fel gweithwyr, gofalwyr, gwirfoddolwyr a chysylltwyr cymunedol.
Mae pobl hŷn yn chwarae rhan hollbwysig o safbwynt creu cymunedau cryf a bywiog. Yn ateb, rydym yn darparu ystod o dai Byw’n Annibynnol hyblyg o safon ac yn darparu gwasanaethau cymorth, sydd wedi’u teilwra i anghenion ein cwsmeriaid hŷn. Er eu cyfraniadau, mae llawer ohonynt yn wynebu rhwystrau cymdeithasol a ffisegol sy’n cyfyngu ar y rhan y gallant ei chwarae. Mae thema eleni’n ein hannog i chwalu’r rhwystrau hynny a dathlu dylanwad cadarnhaol pobl hŷn.
Yn rhan o’n dathliad, rydym yn falch iawn o lansio ein Gwobrau Hyrwyddwyr Cymunedol cyntaf erioed, sy’n cydnabod unigolion ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Drwy wirfoddoli, drwy weithio neu, yn syml iawn, drwy fod yn gymdogion gwych, mae’r hyrwyddwr hyn yn cyfrannu i lesiant pob cenhedlaeth.
Mae gwaith gwirfoddol a gwaith gyda thâl yn fanteisiol i gymunedau ac yn gwella llesiant a hunan-barch pobl hŷn, ond eto i gyd mae llawer ohonynt yn wynebu heriau wrth geisio achub ar y cyfleoedd hynny. Rydym o’r farn bod gan bawb ran i’w chwarae o safbwynt creu cymunedau oed-gyfeillgar lle caiff pobl hŷn eu parchu a’u gwerthfawrogi.
Cadwch eich llygaid yn agored am ragor o newyddion am ein Gwobrau Hyrwyddwyr Cymunedol sy’n dathlu’r rôl hanfodol y mae pobl hŷn yn ei chwarae.
Mwynhewch ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn!