Mae Grŵp ateb wedi ymuno â Jewson Partnership Solutions (JPS) i agor stordy pwrpasol, newydd sbon yng nghanol Hwlffordd. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn symleiddio’r broses o gadw stoc o ddeunyddiau hanfodol, a fydd yn ei gwneud yn bosibl i dimau ateb atgyweirio a chynnal a chadw cartrefi’n gyflym ar draws y gorllewin.
Bydd y stordy newydd yn lleoliad canolog lle bydd ein timau’n gallu casglu cyflenwadau hanfodol. Bydd hynny’n sicrhau bod y broses o gael gafael ar ddeunyddiau’n gyflymach ac yn fwy effeithlon, a fydd yn ein helpu i wella amseroedd atgyweirio i’n cwsmeriaid.
Yn y gorffennol, roedd angen i’n timau ymweld â mwy nag un cyflenwr neu aros i eitemau arbenigol gael eu danfon. Yn awr, diolch i’r bartneriaeth newydd hon gyda Jewson, gall ein faniau gario stoc gyflawn o’r deunyddiau pob dydd sy’n ofynnol i gynnal a chadw ein tai – a fydd yn lleihau’n sylweddol yr amser pan nad oes modd cyflawni gwaith, ac a fydd yn gwneud ein gwasanaethau’n fwy ymatebol.
Meddai Allyn Pritchard, Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Arfaethedig ateb, wrth rannu ei frwdfrydedd ynglŷn â’r bartneriaeth newydd: “Rydym wrth ein bodd o allu lansio ein stordy pwrpasol newydd ar gyfer ateb. Bydd y ffordd newydd hon o weithio’n trawsnewid y modd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau i’n cwsmeriaid, gan wella’r modd yr ydym yn gweithredu, ac mae’n cynnig gwerth ardderchog am arian.”
Meddai Andy Wallace o JPS wedyn: “Mae’n bleser gen i groesawu Grŵp ateb i deulu Jewson Partnership Solutions. Mae gennym safleoedd tebyg ar hyd a lled y DU, a’n nod yw creu cydberthnasau sy’n sicrhau effeithlonrwydd, arloesedd, a gwerth i sefydliadau megis ateb.”
Mae ateb a JPS wedi ymuno â Central Housing Investment Consortium Ltd (CHIC) i wella effeithlonrwydd gwaith atgyweirio a chynnal a chadw. Un o’r prif bethau y mae’r trefniant cydweithredu hwn wedi bod yn canolbwyntio arno yw diffinio stoc faniau’n gywir ar gyfer pob math o grefft, gan sicrhau bod deunyddiau ar gael i gwblhau gwaith atgyweirio adeg yr ymweliad cyntaf. Mae JPS wedi bod yn cydweithio’n agos â phartneriaid cyflenwi megis Crossfold ar gyfer eitemau trydanol a PWS ar gyfer dillad gwaith, ynghyd â chwaer-frand y cwmni, George Boyd, y mae ei dimau yn darparu gwasanaeth arbenigol sy’n ymwneud â setiau drysau, ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Digwyddodd y lansiad swyddogol ddydd Mawrth 24 Medi, pan fuodd aelodau o dimau ateb yn ymweld â’r safle i gael eu tywys o’i gwmpas a gweld yr ap AVAIL ar waith, sef yr ap newydd ar gyfer rheoli stoc faniau. Roedd pawb yn llawn cyffro a hyder yn y digwyddiad wrth i’r staff gael cyfle i weld sut y bydd y system yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach fyth iddynt gael gafael ar ddeunyddiau.
Defnyddiodd Robert Davies, Goruchwylydd Gwasanaethau Trydanol ateb, y gwasanaeth am y tro cyntaf ddydd Mercher, ac meddai: “Roedd yn braf cyrraedd, rhoi popeth ar y fan yn syth a dechrau ar ein siwrnai unwaith eto. Bydd yn bendant yn arbed amser i ni, a bydd yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae’n rhaid i ni aros i ddeunyddiau gyrraedd er mwyn cwblhau gwaith.”