Ydych chi wedi darllen ein diweddariad ail chwarterol – “ateb Stories”?

Bob chwarter, rydym ni a chymdeithasau tai eraill yn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i ddangos sut y mae ein perfformiad ni’n cymharu ag eraill.

Pan gaiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi, byddwn yn ei rhannu â chi ac yn myfyrio ynghylch beth y mae’n ei olygu.

Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau a straeon gan gwsmeriaid ar draws ateb er mwyn rhoi darlun ehangach i chi o sut brofiad yw bod yn un o gwsmeriaid ateb.

Gallwch weld ein hail argraffiad o “ateb Stories” yma:

Os hoffech weld yr arolwg llawn, gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru yma: Arolwg Rheoleiddio Chwarterol Llywodraeth Cymru.

Byddai’n braf cael eich barn, felly mae gennym gyfeiriad ebost pwrpasol [email protected] ar gyfer unrhyw adborth am ein perfformiad ac unrhyw straeon am yr hyn y mae ateb yn ei olygu i chi.

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni.

Cyhoeddwyd: 10/10/2024