Mae Grŵp ateb yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth ddiweddaraf â Morgan Construction Wales Ltd i ddatblygu 19 o gartrefi fforddiadwy a fydd yn gartrefi rhent cymdeithasol yn Nant y Dderwen, sef cynllun ateb yn Saundersfoot.
Bydd y cynllun yn cynnwys cymysgedd o fflatiau, byngalos a thai ag 1, 2 a 3 ystafell wely. Bydd y cartrefi hyn, a ddatblygir yn rhan o gytundeb cynllunio Adran 106 ac a ariennir yn rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cael eu hadeiladu’n unol â safonau dylunio diweddaraf Llywodraeth Cymru. Byddant hefyd yn ymgorffori Dulliau Adeiladu Modern, byddant yn defnyddio trydan yn unig i fodloni nodau datgarboneiddio, a byddant yn cael ‘A’ fel sgôr ar gyfer Perfformiad Ynni, a fydd yn helpu i leihau costau rhedeg y cartrefi ar gyfer ein cwsmeriaid.
Meddai Matthew Morgan, un o Gyfarwyddwyr Morgan Construction:
“Ar ôl cydweithio’n llwyddiannus ar gynlluniau diweddar yn Nhyddewi a Sageston, rydym yn edrych ymlaen at gyflawni’r prosiect diweddaraf hwn gydag ateb, sy’n bartner i ni. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag anghenion o ran tai yn Saundersfoot a bydd yn cael effaith gadarnhaol, hirdymor ar y gymuned leol. Mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o’n hymdrechion i ddarparu datblygiadau â chymysgedd o ddeiliadaethau ar draws y gorllewin.”
Mae disgwyl y bydd yr 19 o gartrefi y mae angen enbyd amdanynt yn barod yn ystod gwanwyn 2026, a byddant yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio cynllun Gosod Tai i Bobl Leol a chynllun Gweithwyr Lleol ateb.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yma: [email protected]