Canlyniadau Cystadleuaeth Arddio 2024

Fis diwethaf, bu Grŵp ateb yn dathlu enillwyr Cystadleuaeth Arddio 2024. Daeth ein cwsmeriaid ynghyd yn Oriel VC, Pennar i gwrdd â phobl eraill sy’n hoffi garddio ac i rannu straeon am eu hanturiaethau yn yr ardd hyd yn hyn. Cafwyd sgyrsiau bywiog wrth fwynhau’r wledd o frechdanau a chacennau a ddarparwyd gan staff Oriel VC, a chafwyd cyfle i fwynhau arddangosfa o waith caled pawb.

Cafodd tystysgrifau a thalebau eu cyflwyno i’r buddugwyr lwcus gan Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid. Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i Robert Hoggins am ei ddefnydd dyfeisgar o ddeunyddiau, ac i Terence Mather am ei fasgedi crog hardd. Aeth y wobr am yr Ardd Gyffredin Orau i Lys Dewi, a Vicky a Freddy Garton oedd enillwyr y Wobr Cyflawniad Rhagorol, sef categori mwyaf newydd ateb, a hynny am eu hymroddiad a’u hymdrechion wrth arddio.

Lluniau o’n gerddi buddugol

Meddai Mark: “Mae’n braf gweld cymaint o geisiadau newydd yn y gystadleuaeth arddio eleni, gyda llawer yn mynd â gwobrau haeddiannol adre gyda nhw! Diolch i bawb sy’n parhau i ofalu am eu mannau gwyrdd. Mae’r ardaloedd awyr agored hyn yn ennyn llawenydd, yn creu harddwch ac yn meithrin ymdeimlad go iawn o lesiant ymhlith y garddwyr a’u cymunedau.”

Meddai David Tovey, Pennaeth Cwsmeriaid ateb, wedyn: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni! Mae’n ysbrydoliaeth gweld y mannau awyr agored anhygoel a grëwyd, nid yn unig i’w mwynhau gan y garddwyr eu hunain ond i’w gwerthfawrogi gan y gymuned gyfan hefyd. Daliwch ati gyda’ch gwaith gwych!”

Os ydych yn ystyried cymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf, dyma’r adeg berffaith i ddechrau cynllunio. Wrth i’r dail ddechrau disgyn, mae’n gyfle gwych i ystyried sut y gallwch greu gardd arobryn gydag ateb!

Lluniau o’n noson gyflwyno

Enillwyr 2024

Yr Ardd Orau gan Berson Ifanc (dan 16 oed)

(1af)      Hannah H (Doc Penfro)

Yr Ardd Orau o Safbwynt yr Amgylchedd / Bywyd Gwyllt

(1af)      Catherine M (Solfach)

(2il)      Helen P (Dinbych-y-pysgod)

(3ydd)   Tony H (Solfach)

Y Defnydd Gorau o Hen Bethau

(1af)      Robert H (Aberdaugleddau)

(2il)      Catherine M (Solfach)

(3ydd)   Clare P (Aberdaugleddau)

Y Blwch Ffenestr Gorau neu’r Fasged Grog Orau

(1af)      Terence M (Doc Penfro)

(2il)      Robert H (Aberdaugleddau)

(3ydd)   Tony H (Solfach)

Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf

(1af)      Llys Dewi (Tyddewi)

(2il)      Tony H (Solfach)

(3ydd)   Catherine M (Solfach)

Yr Ardd Hygyrch Orau

(1af)      Fred a Vicky G (Aberdaugleddau)

(2il)      Llys Dewi (Tyddewi)

(3ydd)   Beryl D (Tyddewi)

Y Cynnyrch Gorau y Gellir ei Fwyta

(1af)      Robert H (Aberdaugleddau)

(2il)      Freddy a Vicky G (Aberdaugleddau)

(3ydd)   Leah F (Neyland)

Y Defnydd Mwyaf Arloesol o LE BACH

(1af)      Charles M (Neyland)

(2il)      Terence M (Doc Penfro)

(3ydd)   Robert H (Aberdaugleddau)

Yr Ardd Unigol Orau

(1af)      Robert H (Aberdaugleddau)

(2il)      Catherine M (Solfach)

(3ydd)   Charles M (Neyland)

Yr Ardd a Rennir/Yr Ardd Gyffredin Orau

(1af)      Llys D (Tyddewi)

(2il)      Freddy a Vicky G (Aberdaugleddau)

(3ydd)   Rosemarie C (Aberdaugleddau)

Y Lle Awyr Agored Mwyaf Cymen

(1af)      Llys Dewi (Tyddewi)

(2il)      Freddy a Vicky G (Aberdaugleddau)

(3ydd)   Terence M (Doc Penfro)

Gwobr i Arwr Tawel

(1af)      Freddy a Vicky G (Aberdaugleddau)

(2il)      Peter D (Doc Penfro)

(3ydd)   Michael M a Rosemarie C (Aberdaugleddau)

Y Dosbarth Cyflawniad Rhagorol

(1af)      Freddy a Vicky G (Aberdaugleddau)

 

Diolch o galon i’r beirniaid eleni, sef Sue, Daria, Ali, Marilyn, Jo, Jaz, Tomos, David T, Amy, Susie a Geraint.

Cyhoeddwyd 04/11/2024