Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Llys Dewi yn Nhyddewi wedi ennill tair o’r prif wobrau yng Nghystadleuaeth Arddio flynyddol ateb eleni, sef Yr Ardd Gyffredin Orau, Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf, a’r Lle Awyr Agored Mwyaf Cymen. Diolch i ymdrechion brwd ac ymroddiad Jim Saul a’r gymuned yn Llys Dewi, mae’r ardd wedi’i thrawsnewid yn fan croesawgar, llawn bywyd y gall y tenantiaid i gyd ei fwynhau.
Meddai Jim wrth dderbyn y wobr: “Rwyf mewn sioc. Alla i ddim credu’r peth. Mae hyn yn wych. Byddaf yn rhoi’r plac i fyny’n syth!”
Mae cymuned Llys Dewi wedi gweithio’n ddiflino i greu man gwyrdd sydd nid yn unig yn gwella golwg yr ardal ond sydd hefyd yn meithrin ymdeimlad o agosatrwydd ymhlith y preswylwyr. Mae eu hymdrechion wedi troi’r ardd yn fan lle gall y tenantiaid ymlacio a mwynhau’r awyr agored. Mae gwelyau plannu uchel yno, planhigion sy’n garedig i wenyn, a thybiau hygyrch sy’n creu amgylchedd deniadol i’r llygad a charedig i fywyd gwyllt.
I gydnabod eu cyflawniadau rhagorol, mae Llys Dewi wedi cael gwerth dros £175 o dalebau a phlac i’w arddangos yn eu heiddo.
Gwnaeth Llys Dewi argraff dda iawn ar y beirniaid a gyfeiriodd at “yr amrywiaeth gwych o siapiau, lliwiau a rhywogaethau sydd i gyd wedi’u gosod yn sensitif iawn mewn man sy’n cael gofal da ac sydd wedi’i gyflwyno’n dda. Mae borderi hardd, tybiau hygyrch a gwelyau plannu uchel hyfryd yn gwneud yr ardd hon yn un heddychlon a thawel, sydd nid yn unig yn drawiadol i’r llygad ond hefyd yn garedig i wenyn a bywyd gwyllt.”
Mae Cystadleuaeth Arddio flynyddol ateb yn dathlu’r cymunedau a’r cwsmeriaid sy’n gwneud mwy na’r disgwyl i sicrhau bod eu gerddi’n hardd ac yn cyflawni diben hefyd. Mae’r gystadleuaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd mannau gwyrdd i hyrwyddo lles, ysbryd cymunedol a chynaliadwyedd.
Mae’r enillwyr eraill i’w gweld yma.