ateb: Yn creu cartrefi mwy diogel a hapus
Pan wnaeth ein Cysylltwyr Cymunedol gysylltu ynglŷn ag un o deuluoedd ateb yn Saundersfoot a oedd yn wynebu ambell anhawster, daeth Amy, ein Cydlynydd Tai, i’r adwy i ymchwilio ac i asesu’r cymorth yr oedd ei angen ar y teulu.
Roedd Anne, sy’n fam i efeilliaid, yn ceisio ymdopi â phwysau bywyd o ddydd i ddydd, a oedd yn cynnwys y cymhlethdodau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gofalu am blentyn awtistig nad yw’n defnyddio geiriau i gyfathrebu. Roedd gardd ffrynt agored y teulu’n achosi pryderon am ddiogelwch i Anne, a oedd yn poeni y gallai ei phlentyn grwydro allan i’r stryd heb ddeall y peryglon.
“Mae pobl yn gyrru mor gyflym rownd y gornel, ac roeddwn yn ofni y gallai fy mhlentyn redeg allan i’r ffordd ac na fyddai gyrwyr yn ei weld,” meddai Anne.
Gwelodd Amy fod angen i’r teulu gael amgylchedd mwy diogel, felly bu’n cydlynu addasiadau hanfodol er mwyn helpu Anne i deimlo’n fwy diogel a rhoi iddi’r tawelwch meddwl yr oedd yn ei haeddu. Y tu mewn, cafodd clo y mae angen allwedd i’w agor ei osod ar y drws ffrynt yn lle’r clo yr oedd modd ei agor â’ch bys bawd. Roedd hynny’n golygu bod gan Anne fwy o reolaeth ar bwy allai ddod i mewn ac allan o’r tŷ. Y tu allan, cafodd ffens ddelltog gadarn a gât y gellir ei chloi eu gosod er mwyn creu terfyn diogel i’r teulu a’r cymdogion.
Mae effaith y newidiadau hyn wedi bod yn drawsnewidiol yn barod. Erbyn hyn, mae’r plant yn gallu chwarae’n rhydd yn eu gardd ffrynt, mewn man diogel lle gallant fwynhau bod yn blant.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Bron i fi lefain. Mae mor dda, rwy’n dwlu arno,” meddai Anne wrth fynegi ei boddhad a’i rhyddhad. “Rwyf mor ddiolchgar bod fy mhlentyn yn gallu mwynhau bod y tu allan unwaith eto ac nad oes yn rhaid i fi boeni gymaint.”
I deuluoedd fel teulu Anne, gall ychydig o newidiadau bach wneud gwahaniaeth enfawr. Rydym yn falch o gyfrannu at helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn ddiogel a’u bod yn cael cymorth yn eu bywyd o ddydd i ddydd.