Dyma Adroddiad Arolwg FY NGHYFRIF ATEB 2024. Cafodd yr arolwg ei hun ei gynnal ym mis Ebrill a mis Mai, ac mae’r hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wedi’i gofnodi yn yr adroddiad hwn. Gan gydweithio’n agos â thimau Cyfathrebu, Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Systemau Digidol, a chwsmeriaid sy’n aelodau o’r Grŵp Cynllunio Arolygon, cafodd dadansoddiad o’r canlyniadau ei lunio a chafodd rhestr o welliannau i’r gwasanaeth ei chreu. Mae staff ateb wrthi’n awr yn gweithio ar y rhestr honno, ac mae’r cynnydd a wneir yn cael ei fonitro gan y Grŵp Cynllunio Arolygon.
Y cam nesaf: Adroddiad Diweddaru 6-mis, i’w gyhoeddi ym mis Chwefror 2025. Darllenwch yr Adroddiad ym mis Chwefror i ddarganfod y cynnydd a wnaed tuag at gwblhau’r gwelliannau hynny.
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni