Mae colli apwyntiadau i wirio systemau gwresogi, rhoi gwasanaeth iddynt a gwirio diogelwch trydanol yn costio dros £100,000 y flwyddyn i ateb. Byddai’n llawer gwell gennym ddefnyddio’r arian hwnnw i ddarparu atebion gwell o ran byw i’n cwsmeriaid trwy wella cartrefi a chymunedau, bydd hyn yn helpu i gadw cost eich rhent i lawr hefyd. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae ein Tîm Cydymffurfio wedi datblygu rhaglen gynhwysfawr, gan weithio’n agos gyda’n cydlynwyr tai, ein trefnwyr atgyweiriadau a’n tîm gwaith cynnal a chadw arfaethedig, y bwriedir iddi wella mynediad a lleihau nifer yr apwyntiadau a gollir, sydd mor gostus.
Nododd aelodau’r tîm nad yw llawer o gwsmeriaid yn agor llythyrau ynghylch apwyntiadau, gan arwain at golli gwiriadau diogelwch. Drwy siarad yn uniongyrchol â chwsmeriaid, cawsant wybodaeth werthfawr ac aethant ati i deilwra proses well.
Amlinellodd Vanessa Mullins, ein Harweinydd Rheoli Cydymffurfio, y cynllun:
Cam 1: Gwneud eich apwyntiad: Byddwn bob amser yn dechrau gyda galwad ffôn i drefnu’r apwyntiad ac yn anfon neges destun i gadarnhau’r manylion. Os na allwn gael gafael arnoch, byddwn yn dewis dyddiad ac yn anfon llythyr atoch gyda manylion eich apwyntiad. Mae ein trefnwyr atgyweiriadau yn ein cynorthwyo i gyflawni hyn.
Cam 2: Wythnos cyn eich apwyntiad.
Anfonir gair i’ch atgoffa ar ffurf neges destun ac ar ffurf cerdyn drwy’r post.
Cam 3: Y diwrnod cyn eich apwyntiad.
Anfonir gair i’ch atgoffa ar ffurf neges destun.
Cam 4: Ar ddiwrnod eich apwyntiad.
Bydd y peiriannydd yn anfon neges destun atoch pan fydd ar fin teithio i’ch cartref.
Mae’r camau hyn yn sicrhau cyfathrebu clir ac yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd apwyntiadau’n cael eu cwblhau’n llwyddiannus.
Meddai Vanessa:
“Ein blaenoriaeth yw cadw cwsmeriaid yn ddiogel yn eu cartrefi ac mae’r gwiriadau diogelwch hyn yn ‘angenrheidiol’ wrth wneud hynny. Drwy wella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, ein nod yw sicrhau bod gwiriadau hanfodol yn cael eu cwblhau mewn pryd, gan leihau nifer yr apwyntiadau a gollir a lleihau’r costau i gwsmeriaid ateb. Mae gwir angen i’n cwsmeriaid weithio gyda ni i sicrhau bod cyfradd yr achosion o fethu cael mynediad i eiddo mor fach ag sy’n bosibl. Bydd hynny wedyn o fudd i holl gwsmeriaid ateb.”
Beth i’w ddisgwyl yn ystod gwiriad:
- Gwiriadau Trydanol:
Mae angen y rhain bob pum mlynedd i gynnal diogelwch.
Gall gymryd ychydig oriau yn dibynnu ar faint yr eiddo a’i oedran. Bydd y trydanwr yn profi offer, socedi pŵer, goleuadau a gosodiadau eraill. Dylai nodi unrhyw beryglon o ran y cylched neu unrhyw offer diffygiol a dylai brofi’r bwrdd ffiwsys a’r larymau tân i sicrhau diogelwch.
- Gwiriadau Nwy:
Rydym yn cynnal y rhain bob blwyddyn ac maent yn hanfodol o safbwynt cydymffurfio ac o safbwynt diogelwch cwsmeriaid.
Dim ond tua 60 munud y mae’r gwiriad hwn yn ei gymryd a bydd y peiriannydd nwy yn chwilio am arwyddion bod nwy neu garbon monocsid yn gollwng a bydd yn profi pibellau’r ffliw a’r awyru i sicrhau nad oes unrhyw rwystr. Bydd hefyd yn profi bod yr holl fesurau rheoli diogelwch yn gweithio’n gywir ac yn gwirio cyflwr y pibellau a’r seliau.
Pam mae’n bwysig
Heb archwiliadau rheolaidd mae risg uwch y bydd namau trydanol yn datblygu heb i neb sylwi a allai arwain at faterion mwy difrifol. Mae bron i hanner yr holl danau damweiniol mewn cartrefi yn y DU yn cael eu hachosi gan wifrau diffygiol, sy’n amlygu pryder difrifol o ran diogelwch i gartrefi ledled y wlad. Yn syfrdanol, mae dros 65 o bobl yn colli eu bywyd bob blwyddyn oherwydd namau trydanol yn eu cartrefi. Mae hyn yn dangos mor bwysig yw sicrhau bod gwiriadau trydanol yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Credwn y bydd ein menter newydd yn gwella effeithlonrwydd a diogelwch ac yn lleihau costau.
Cyhoeddwyd ar 08/01/2025