Faint o amser y byddwch yn ei gymryd i ymdrin â fy nghwyn?

Byddwn yn ceisio datrys pryderon cyn gynted ag sy’n bosibl, a byddwn yn disgwyl ymdrin â’r mwyafrif llethol ohonynt cyn pen 28 diwrnod. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn:

  • Yn rhoi gwybod i chi o fewn yr amser hwnnw pam rydym yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ni ymchwilio i’ch cwyn.
  • Yn dweud wrthych faint o amser rydym yn disgwyl i’r gwaith ei gymryd.
  • Yn rhoi gwybod i chi ble rydym arni gyda’r ymchwiliad.
  • Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n rheolaidd, a fydd yn cynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.