Rydym yn llawn cyffro wrth rannu’r newyddion bod 12 cartref newydd wedi cael eu trosglwyddo y chwarter hwn yn rhan o drydydd cam ein datblygiad ar Pembroke Road, Doc Penfro.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y safle’n darparu 100 o gartrefi y mae mawr eu hangen yn Sir Benfro, a bydd yn golygu buddsoddiad o dros £17 miliwn.
Hyd yn hyn, mae 22 o gartrefi wedi’u gosod drwy’r Gofrestr Tai yn rhan o gamau 1 a 2, gyda chwsmeriaid yn symud y mis hwn i’r cartrefi diweddaraf i gael eu hadeiladu. Mae Cheryl, ein Cydlynydd Gosodiadau, wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n Tîm Datblygu i gyflymu’r broses a lleihau’r amser rhwng adeiladu a gosod. #Cyflawni
Rydym yn edrych ymlaen at osod cartrefi’r cam nesaf, sef y pedwerydd cam, yn ystod y mis neu ddau nesaf (Chwefror/Mawrth), wrth i ni barhau i gyflawni ein haddewid i ddarparu cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel, fforddiadwy i’w rhentu.
Mae Andrew Thomas, Arolygwr Ansawdd Adeiladu ateb, yn taflu goleuni ar y broses:
“Cyn y gellir trosglwyddo cartref o’n datblygiad i’r tîm gosodiadau, rydym yn sicrhau bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau, a bod y tystysgrifau angenrheidiol yn cael eu cofnodi. Er y gall ymddangos o’r tu allan bod cartref yn barod, fe all gymryd wythnosau i sefydliadau allanol gynnal archwiliadau a chyhoeddi’r tystysgrifau cwblhau gofynnol.”
“Mae bob amser yn bleser trosglwyddo cartref newydd ei adeiladu i’n Tîm Gosodiadau, gan wybod ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Wrth adeiladu’r cartrefi newydd hyn rydym bob amser yn dilyn Safon Ansawdd Tai Cymru ond byddaf yn aml yn meddwl am y defnyddwyr terfynol a sut y byddai’r eiddo’n addas ar eu cyfer ac yn bodloni eu ffordd nhw o fyw, ac mae hynny’r un mor bwysig”.
Mae’r datblygiad hwn yn cynnwys 7 cam i gyd, a gobeithiwn y bydd pob un o’r 100 o gartrefi wedi’u cwblhau erbyn dechrau 2026. Er mwyn gweld ein datblygiadau eraill, cymerwch olwg ar ein tudalen datblygiadau.