Beth os na fyddwch yn datrys y broblem?

Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff llywodraeth, a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi’n bersonol neu’r unigolyn rydych yn cwyno ar ei ran:

  • Wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y corff sy’n ei ddarparu.
  • Wedi cael eich rhoi dan anfantais yn bersonol oherwydd methiant gwasanaeth neu wedi cael eich trin yn annheg.

Bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw ni’n gyntaf a rhoi cyfle i ni unioni’r cam.

Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon:

Dros y ffôn: 0845 6010987

Drwy ebost: [email protected]

Drwy’r wefan: www.ombwdsmon.cymru

Yn ysgrifenedig: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.