Mae’r Ap Sŵn yn ffordd gyflym a hawdd o recordio sŵn sy’n achosi anfodlonrwydd a niwsans.
Bydd angen ffôn ‘clyfar’ arnoch i ddefnyddio’r ap hwn, ac os oes gennych fand eang ni fyddwch yn defnyddio lwfans data eich ffôn symudol.
Cyn i chi recordio unrhyw beth ar yr ap, rhaid i chi ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 lle bydd rhywun yn nodi eich manylion ac yn cyfeirio eich achos at y Tîm Iechyd Cyhoeddus. Nodwch na fydd modd paru eich recordiadau â’ch manylion os na fyddwch yn gwneud hynny.
Ar ôl i chi lawrlwytho’r ap a rhoi gwybod i’r Cyngor, gallwch fynd ati ar unwaith i ddechrau recordio’r sŵn sy’n achosi’r broblem.
Caiff y recordiadau eu lanlwytho’n syth i wefan ddiogel. Yna, byddant yn cael eu hasesu a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa gamau gweithredu sy’n angenrheidiol.
Gallwch wneud cynifer o recordiadau ag sydd angen – mae pob recordiad yn para hyd at 30 eiliad.