Yn ateb, rydym o’r farn bod pawb yn haeddu cael cartref cyffyrddus a chynnes sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino i wella amodau byw ar gyfer ein cwsmeriaid, ac rydym yn falch o sôn am y cynnydd anhygoel yr ydym wedi’i wneud wrth fynd ati i wella’r cartrefi sydd yn ein cymunedau.
Yn ôl yn ystod haf 2024, gwnaethom orffen gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol 27 o gartrefi yn Vineyard Vale, Saundersfoot — ac mae’r canlyniadau wedi bod yn rhagorol!
Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn
Gavin ac Emma, Vineyard Vale.
“Mae’n wahaniaeth enfawr. Rydym yn amcangyfrif bod y tymheredd yn ein cartref wedi codi tua 5 gradd. Felly, yr unig fan lle’r ydym yn troi’r gwres ymlaen yn awr yw yn ein cwpwrdd crasu er mwyn sychu ein dillad. Roedd arogl hen ar yr aer o’r blaen. Dyw hynny ddim yn wir yn awr, ac mae ansawdd yr aer yn bendant yn well.”
“Mae’r tŷ yn aros yn gynhesach am gyfnod hirach, ac mae’n cynhesu yn gynt hefyd. O’r blaen, byddem yn diffodd y gwres am 12 ganol nos ac yn deffro am 4am yn teimlo’n oer. Yn awr, rydym yn diffodd y gwres yn gynharach a d’yn ni ddim yn teimlo’n oer yn ystod y nos. Mae gymaint yn well.”
“Roedd ein biliau ynni’n arfer bod yn £163 y mis, ac maen nhw wedi gostwng i £142 erbyn hyn. Felly, rydym yn arbed dros £200 y flwyddyn, yn ôl pob tebyg. Mae’n hollol wahanol.”
“Roedd y gweithwyr yn wych, yn wirioneddol dda. O safbwynt logisteg, roedd yna lawer o annibendod pan oedd y gwaith yn cael ei wneud, ond erbyn diwedd y pedair wythnos roedd y cyfan yn werth y drafferth.”
Wrth ymateb i gwestiwn a oedd yn gofyn beth y byddai’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried cael y gwaith wedi’i wneud, meddai’n bendant:
“Peidiwch â meddwl rhagor, ewch amdani. Mae’n bendant yn werth chweil.”
Jenny, Vineyard Vale.
“Rwy’n bendant wedi sylwi bod yna wahaniaeth. Mae’r tŷ yn cynhesu’n gynt o lawer nag o’r blaen. Roedd y lle yn debyg i safle adeiladu am ychydig, ond roedd y gweithwyr yn ardderchog, yn drylwyr, yn gyfeillgar ac yn gweithio’n gyflym. Mae’r canlyniadau wedi bod yn werth y drafferth.”
Colin a Denise, Vineyard Vale.
“Oedd, roedd yna annibendod, ond mae’r canlyniad yn anhygoel. Mae’n arbed arian i ni’n barod. Mae’r tŷ yn aros yn oer yn yr haf ac yn cynhesu’n gynt o lawer yn y gaeaf. Mae’r gwahaniaeth wedi bod yn rhyfeddol.”
Fel y gwelwch o’r llun uchod, mae’r deunydd inswleiddio wedi’i roi ar du allan y cartref (gweler y llun ar y chwith) ac wedi’i orffennu a’i baentio wedyn. Mae’r llun ar y dde yn dangos dyfnder y deunydd inswleiddio a ychwanegir at eich cartref.
Mae deunydd inswleiddio 100mm Wetherby Systems i’w roi ar waliau allanol yn lleihau’r ynni sy’n angenrheidiol i wresogi ac i oeri tai, sy’n golygu y dylai eich cartref aros yn oerach yn ystod yr haf ac yn gynhesach yn ystod misoedd y gaeaf.
Sut y mae’r buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth
✨ Defnydd mwy effeithlon o ynni
Mae deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn helpu i leihau’n sylweddol y gwres a gaiff ei golli o gartrefi. Drwy ychwanegu haen ychwanegol o ddeunydd inswleiddio at du allan yr adeilad, rydym yn helpu preswylwyr i gadw’n gynhesach yn y gaeaf ac yn oerach yn yr haf – gan sicrhau ar yr un pryd bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio. Mae hynny’n golygu biliau gwres rhatach a chartref sy’n fwy cyffyrddus o lawer i fyw ynddo.
🌍 Effaith amgylcheddol
Yn rhan o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ac i leihau ôl troed carbon, mae gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn helpu i leihau’r ynni y mae eich cartref yn ei ddefnyddio yn gyffredinol. Drwy leihau’r angen am wres, rydym nid yn unig yn helpu ein cwsmeriaid i arbed arian ond hefyd yn chwarae ein rhan i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Mae’r amgylchedd a’r gymuned ar eu hennill, felly!
💰 Preswylwyr yn arbed costau
Un o’r manteision mwyaf sydyn y mae ein preswylwyr wedi sylwi arni yw’r ffaith eu bod yn defnyddio llai o ynni a, gobeithio, yn arbed costau (os na fydd prisiau ynni’n parhau i godi). O gael cartrefi sy’n fwy effeithlon mae’r angen am wres yn lleihau, sy’n helpu teuluoedd i gadw eu biliau ynni’n fforddiadwy. Mewn cyfnod lle mae cyllidebau pobl yn dynn, mae popeth yn help!
🏡 Cartrefi mwy deniadol
Mae’r deunydd inswleiddio ar waliau allanol nid yn unig yn cynnig cysur ac arbedion – mae hefyd yn sicrhau bod tu allan y cartrefi’n edrych yn ffres ac yn fodern! Rhoddir sylw i fanylion wrth gyflawni’r gwaith, gan sicrhau nid yn unig bod yr adeiladau’n parhau yn ddeniadol ond eu bod hefyd yn cael eu huwchraddio mewn modd sydd o fantais i’r preswylwyr a’r gymuned ehangach.
🏘️ Creu cymunedau cryfach
Mae buddsoddi mewn tai sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn golygu buddsoddi mewn mwy na brics a morter yn unig – mae’n ymwneud hefyd â buddsoddi mewn pobl. Drwy wella ansawdd tai, rydym yn rhoi i breswylwyr y tawelwch meddwl a’r sefydlogrwydd y maent yn eu haeddu. Gall cartref cyffyrddus sydd wedi’i inswleiddio yn dda gael effaith bellgyrhaeddol ar les meddyliol a chorfforol, ac rydym yn falch o fod yn helpu i wneud hynny’n bosibl.
Gweledigaeth Sero Net ateb
Yn ateb, rydym am wneud mwy na darparu cartrefi i bobl – rydym hefyd am greu cartrefi lle gall pobl ffynnu. Mae ychwanegu deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn un enghraifft yn unig o’r modd yr ydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein cymunedau’n fwy gwyrdd, yn fwy iach ac yn fwy cynaliadwy, sydd i gyd yn rhan o weledigaeth Sero Net ateb.
Yr wythnos nesaf byddwn yn ymweld â Garfield Gardens, lle gwnaeth cwsmeriaid ateb elwa yn 2024 o gael deunydd inswleiddio wedi’i osod ar waliau allanol ac o gael paneli solar wedi’u gosod yn ogystal! Cofiwch ddarllen am hynny hefyd.