Yn ystod 2024, cafodd cyfanswm o 68 o gartrefi eu gwella yn rhan o’n Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wrth i ni weithio i wella amodau byw ac effeithlonrwydd ynni cartrefi ar gyfer ein cwsmeriaid.
Yn ôl yn yr hydref, gorffennodd ateb osod deunydd inswleiddio ar waliau allanol a gosod paneli solar ffotofoltäig yn Garfield Gardens, Arberth gan drawsnewid naw o gartrefi. A’r canlyniadau? Maent yn rhagorol!
Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn
Val, Garfield Gardens
“Y fantais fwyaf rwyf wedi sylwi arni yw fy miliau. Rwyf wedi bod yn talu llai na £10 am yr ynni rwy’n ei ddefnyddio ers i’r paneli ddechrau gweithio. Dyma fy mhedwerydd bil, a gyrhaeddodd ddoe, ac wrth i’r gaeaf fynd yn ei flaen mae’r biliau wedi mynd yn rhatach, sy’n hollol wallgo’!”
“Pe bai rhywun yn methu â phenderfynu ynglŷn â chael y gwaith hwn wedi’i wneud, byddwn yn dweud wrthynt fy mod i wedi credu’n wirioneddol na fyddai unrhyw wahaniaeth yn fy miliau yn ystod y gaeaf ac y byddwn yn talu’r un faint â chyn i’r paneli gael eu gosod. Roeddwn i’n arfer troi’r gwres ymlaen yn y bore, ond does dim angen i fi wneud hynny’n awr pan fyddaf yn codi. Pan godais i ddoe, roedd y tymheredd yr un fath ag yr oedd pan es i i’r gwely y noson gynt”.
📉 Defnydd o ynni wedi lleihau 65%!
Y llynedd, roedd Val yn defnyddio tua 88 uned o ynni bob mis. Ac yn awr? Dim ond 30! Mae’n ostyngiad enfawr o 65%! Mae Val o’r farn mai’r paneli solar a’r deunydd inswleiddio ar waliau allanol sydd i gyfrif am yr arbedion.
Beth y byddech yn ei ddweud wrth rywun sy’n teimlo’n betrus ynglŷn â chael y gwaith wedi’i wneud? “Byddwn i’n dweud wrthynt am fynd amdani; mae’r dystiolaeth yn glir. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf faint o drydan y byddwn i’n ei ddefnyddio wedyn (ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau), fyddwn i ddim wedi’u credu nhw. Roeddwn yn meddwl na fyddai cystal â’r hyn y mae pobl yn ei ddweud, ond mae wedi bod yn well fyth.”
Hazal, Garfield Gardens
“Mae’r tŷ yn gynhesach o lawer. Mae’n gynhesach yn y nos ac mae’r tymheredd yn fwy cyson o lawer. Byddwn i’n dweud wrth bobl am fynd amdani.”
Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymrwymiad ateb i wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ar draws y gorllewin, gyda chefnogaeth gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.
Dyma sut y mae’r buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth:
✨ Defnydd mwy effeithlon o ynni
Mae deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn helpu i leihau’n sylweddol y gwres a gaiff ei golli o gartrefi. Drwy ychwanegu haen ychwanegol o ddeunydd inswleiddio at du allan yr adeilad, rydym yn helpu preswylwyr i gadw’n gynhesach yn y gaeaf ac yn oerach yn yr haf – gan sicrhau ar yr un pryd bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio. Mae hynny’n golygu biliau gwres rhatach a chartref sy’n fwy cyffyrddus o lawer i fyw ynddo.
🌍 Effaith amgylcheddol
Yn rhan o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ac i leihau ôl troed carbon, mae gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn helpu i leihau’r ynni y mae eich cartref yn ei ddefnyddio yn gyffredinol. Drwy leihau’r angen am wres, rydym nid yn unig yn helpu ein cwsmeriaid i arbed arian ond hefyd yn chwarae ein rhan i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Mae’r amgylchedd a’r gymuned ar eu hennill, felly!
💰 Preswylwyr yn arbed costau
Un o’r manteision mwyaf sydyn y mae ein preswylwyr wedi sylwi arni yw’r ffaith eu bod yn defnyddio llai o ynni a, gobeithio, yn arbed costau (os na fydd prisiau ynni’n parhau i godi). O gael cartrefi sy’n fwy effeithlon mae’r angen am wres yn lleihau, sy’n helpu teuluoedd i gadw eu biliau ynni’n fforddiadwy. Mewn cyfnod lle mae cyllidebau pobl yn dynn, mae popeth yn help!
🏡 Cartrefi mwy deniadol
Mae’r deunydd inswleiddio ar waliau allanol nid yn unig yn cynnig cysur ac arbedion – mae hefyd yn sicrhau bod tu allan y cartrefi’n edrych yn ffres ac yn fodern! Rhoddir sylw i fanylion wrth gyflawni’r gwaith, gan sicrhau nid yn unig bod yr adeiladau’n parhau yn ddeniadol ond eu bod hefyd yn cael eu huwchraddio mewn modd sydd o fantais i’r preswylwyr a’r gymuned ehangach.
🌞 Paneli solar ffotofoltäig
Rydym hefyd wedi gosod paneli solar ar gartrefi, a fydd yn manteisio ar bŵer yr haul i gynhyrchu trydan. Bydd yr ynni adnewyddadwy hwn yn lleihau dibyniaeth ar y grid, yn lleihau ôl troed carbon ac yn galluogi cwsmeriaid i gael ynni gwyrdd a glân. Yn ogystal, wrth i ynni solar gael ei ddefnyddio i ddarparu trydan ar gyfer cartrefi, gall preswylwyr ddisgwyl gweld eu costau trydan yn gostwng—a fydd yn helpu i wneud eu costau misol yn fwy fforddiadwy.
🏘️ Creu cymunedau cryfach
Mae buddsoddi mewn tai sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn golygu buddsoddi mewn mwy na brics a morter yn unig – mae’n ymwneud hefyd â buddsoddi mewn pobl. Drwy wella ansawdd tai, rydym yn rhoi i breswylwyr y tawelwch meddwl a’r sefydlogrwydd y maent yn eu haeddu. Gall cartref cyffyrddus sydd wedi’i inswleiddio yn dda gael effaith bellgyrhaeddol ar les meddyliol a chorfforol, ac rydym yn falch o fod yn helpu i wneud hynny’n bosibl.
Gweledigaeth Sero Net ateb
Yn ateb, rydym am wneud mwy na darparu cartrefi i bobl – rydym hefyd am greu cartrefi lle gall pobl ffynnu. Mae ychwanegu deunydd inswleiddio ar waliau allanol a gosod paneli solar yn un enghraifft yn unig o’r modd yr ydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein cymunedau’n fwy gwyrdd, yn fwy iach ac yn fwy cynaliadwy, sydd i gyd yn rhan o weledigaeth Sero Net ateb.
Yr wythnos nesaf byddwn yn ymweld â Preseli Court yn Aberdaugleddau, sef y trydydd prosiect a’r prosiect olaf a gwblhawyd gennym yn ystod 2024. Byddwn yn siarad â Roger a wnaeth elwa hefyd o gael deunydd inswleiddio wedi’i osod ar waliau allanol ac o gael paneli solar wedi’u gosod! Welwn ni chi yr wythnos nesaf!