Gwybodaeth bwysig: Bydd credydau treth yn dod i ben ar 5 Ebrill 2025

Os ydych ar hyn o bryd yn cael Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant, bydd y taliadau hynny’n dod i ben yn barhaol ddydd Sadwrn 5 Ebrill 2025. Mae’r newid hwn yn rhan o benderfyniad Llywodraeth y DU i symud i Gredyd Cynhwysol, sydd wedi disodli llawer o fudd-daliadau hŷn yn barod (mae rhagor o fanylion i’w cael isod). 

Mae mwyafrif ein cwsmeriaid wedi symud i Gredyd Cynhwysol yn barod, ond os ydych yn dal i gael credydau treth mae’n bwysig gweithredu yn awr er mwyn sicrhau na fyddwch yn colli eich cymorth ariannol. 

Beth y mae angen i chi ei wneud? 

  • Gwirio a ydych yn dal i gael credydau treth. Os ydych chi, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted ag sy’n bosibl. 
  • Cadw golwg am lythyr Hysbysiad Trosglwyddo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, os nad ydych wedi cael un yn barod. Bydd y llythyr hwn yn rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â sut mae gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. 
    Ond peidiwch ag aros am y llythyr – os ydych yn gwybod eich bod yn cael credydau treth, mae’n bwysig gweithredu cyn 5 Ebrill 2025. 

Gallwch naill ai:

  • Wneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted ag y gallwch. Os na wnewch chi gais cyn 5 Ebrill pan fydd taliadau eich credydau treth yn dod i ben, gallai fod bwlch yn eich incwm a gallech wynebu problemau ariannol difrifol

neu 

  • Gael help os nad ydych yn siŵr beth y dylech ei wneud. Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor annibynnol i chi am ddim neu gallwch gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol. Ond dylech wneud hynny ar unwaith.

Pam y mae’n bwysig? 

Mae llawer o bobl yn dibynnu ar gredydau treth i’w helpu gyda’u rhent, eu biliau, eu bwyd a’u costau byw hanfodol eraill. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, byddwch yn colli’r cymorth ariannol hwnnw. 

Hyd yn oed os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn nes ymlaen, ni fydd eich taliadau’n cael eu hôl-ddyddio a gallai fod bwlch yn eich incwm. 

Y dyddiad cau yw 5 Ebrill 2025. Peidiwch ag aros – po gyntaf y gwnewch chi gais am Gredyd Cynhwysol, y cyntaf y gallwch sicrhau eich taliadau yn y dyfodol. 

Beth yw Credyd Cynhwysol? 

Un taliad misol yw Credyd Cynhwysol, a’i fwriad yw helpu pobl gyda chostau byw. Mae wedi disodli’r canlynol: 

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Budd-dal Tai 

Angen mwy o gymorth? 

Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim i’ch helpu i ddeall eich camau nesaf a gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol. 

At hynny, gallwch gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gael gwybodaeth am eich Hysbysiad Trosglwyddo neu’r broses gwneud cais. 

Os ydych yn poeni am eich sefyllfa, gallwch hefyd gysylltu â ni yn ateb — rydym yma i helpu.

Cyhoeddwyd: 19/03/2025