Gall rhai o denantiaid ateb brynu eu cartrefi drwy’r cynlluniau Hawl i Gaffael neu Hawl i Brynu. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai tenantiaid yn gymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Hawl i Gaffael, dylai eich cartref fodloni’r amodau canlynol:
- Cafodd ei adeiladu ar ôl 1 Gorffennaf 1997.
- Nid yw mewn ardal wledig yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru.
- Nid yw yn ardaloedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Ni chafodd ei adeiladu’n benodol ar gyfer pobl hŷn neu bobl anabl.
Nodwch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol i ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael ledled Cymru. Darllenwch y Ddogfen Arweiniad ynghylch sut y gallai hynny effeithio arnoch chi.