Ddydd Mercher 21 Mai yn Neuadd y Frenhines, Arberth o 11am tan 2pm
Mae ateb yn awyddus i glywed gennych ynglŷn â sut y mae’r amgylchiadau sy’n parhau o ran costau byw wedi effeithio arnoch, ac mae’n awyddus i drafod â chi sut y gallem ddarparu help.
Felly, mae ateb yn bwriadu cynnal Cymanfa Les yn Arberth er mwyn cyfnewid gwybodaeth.
Mewn awyrgylch hamddenol, gallwch fod yn rhan o drafodaethau mewn grwpiau bach, a sgwrsio ag amrywiaeth o aelodau allweddol o staff ateb a sefydliadau neu fudiadau lleol a all eich helpu.
Bydd y canlynol yn bresennol ymhlith eraill:
- Cydlynydd Lles Cymunedol, Andrew Jenkins – cymorth digidol
- Swyddog Ynni Cartref ateb, Catherine Morse
- Staff o Dîm Eiddo ateb i drafod problemau’n ymwneud â lleithder a llwydni
- Staff ateb i drafod datgarboneiddio â chi
Byddwn hefyd yn cael cwmni Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro a Hwb Cymunedol Sir Benfro yn ogystal ag asiantaethau lleol eraill sy’n darparu cymorth.
Bydd cinio bys a bawd yn ogystal â the, coffi a chacen ar gael
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i bob un o gwsmeriaid ateb.
- Mae’r lleoliad yn hygyrch
- Mae ateb yn darparu ar gyfer dewisiadau o ran bwyd
- Mae ateb yn cynnig help i ofalwyr a’r sawl y mae angen gofal arnynt
- Mae ateb yn cynnig help gyda chludiant
DIM OND NIFER GYFYNGEDIG O LEOEDD SYDD AR GAEL – LLENWCH Y FFURFLEN ARCHEBU HON I GADW EICH LLE neu cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol i ofyn cwestiwn:
Ali Evans (Cydlynydd Ymgysylltu)
Rwy’n hapus i siarad â chi yn Gymraeg neu yn Saesneg
01437 774766 / 07500 446611
Sue Mackie (Arweinydd y Tîm Datblygu Cymunedol)
01437 763688