Mae ateb yn yswirio’r adeilad yr ydych yn byw ynddo ond nid yw’n yswirio cynnwys eich cartref.
Yswiriant Cynnwys Cartref
Pam mae ei angen arnaf?
Os ydych yn gwsmer sy’n rhentu, mae’n bosibl na fyddwn yn yswirio cynnwys eich cartref yn rhan o’r contract meddiannaeth. Mae’n syniad da ystyried beth y byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei yswirio, er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen yswiriant o’r fath arnoch.
Bwriad yswiriant cynnwys yw helpu i ddiogelu eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu’i ddwyn.
I’ch helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn briodol i chi, mae ateb wedi ymuno â Thistle Tenant Risks a Great Lakes Insurance UK Ltd sy’n darparu’r Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref, sef polisi yswiriant cynnwys ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol.
Gall y Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref, gan gynnwys yswiriant ar gyfer eitemau megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac ornaments.
Sut mae cael rhagor o wybodaeth?
- Gofynnwch i’ch swyddog tai lleol am becyn gwneud cais.
- Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288.
- Fel arall, ewch i www.thistlemyhome-cymru.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu ofyn i rywun eich ffonio’n ôl.
Mae cyfyngiadau ac eithriadau’n berthnasol. Mae copi o eiriad y polisi ar gael o ofyn amdano.
Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Thistle Insurance Services Ltd. Caiff Thistle Insurance Services Limited ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Cyfeirnod y cwmni: 310419. Cofrestrwyd yn Lloegr dan rif 00338645. Swyddfa gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o’r PIB Group.
Mae ein Polisi Preifatrwydd at ddibenion Diogelu Data i’w weld ar-lein yma: https://www.thistleinsurance.co.uk/Privacy-Policy
Mae’n bwysig diogelu eich eiddo, ac mae eich Landlord yn awgrymu eich bod yn chwilio am ddarparwyr a gaiff eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae Thistle Insurance Services yn gwmni sy’n arbenigo mewn yswiriant cynnwys ar gyfer tai cymdeithasol, ond mae darparwyr eraill ar gael hefyd a gellir dod o hyd iddynt ar wefannau cymharu tebyg i Money Supermarket neu Compare the Market.