Does dim cyfrif banc gen i. Sut galla’ i agor un?

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n syth i gyfrif banc. Gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn addas i chi:

  • Os oes gennych statws credyd gwael neu os yw eich incwm yn isel.
  • Os nad oes arnoch angen y pethau ychwanegol y mae cyfrif cyfredol yn eu cynnig, er enghraifft cyfleuster gorddrafft.

Bydd angen i chi brofi pwy ydych chi er mwyn gallu agor cyfrif banc – bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu’n dweud wrthych beth y mae angen i chi ei ddarparu.