Esbonio eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth

Rhent

Mae eich rhent yn talu am y canlynol:

  • Taliadau morgais ar yr arian a fenthyciwyd i adeiladu neu brynu eich cartref.
  • Gwaith atgyweirio a gwella, a’r staff sy’n darparu gwasanaethau i chi.

Bob blwyddyn byddwn yn adolygu cost rhent i’n cwsmeriaid, gan wneud yn siŵr ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’n bod yn ystyried fforddiadwyedd.

Mae ein Polisi Pennu Rhenti Fforddiadwy (available on our documents page) yn egluro sut yr ydym yn pennu pob math o wahanol renti ar gyfer ein cartrefi, gan sicrhau eu bod yn deg ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid.

Mae ein canllaw i sut y mae ateb yn pennu rhent ar gael yma. Ar gael yn Saesneg yn unig.

Taliadau gwasanaeth

Mae taliadau gwasanaeth yn talu cost ystod o wasanaethau a ddarperir gennym i sicrhau bod eich cartrefi a’ch cymunedau yn saff ac yn ddiogel a’u bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda. Maent hefyd yn talu cost gwasanaethau arbenigol ar gyfer y rheini ohonoch y mae angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol arnoch i allu parhau i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl, er enghraifft cymhorthion, addasiadau a phrydau bwyd.

Mae ein canllaw i daliadau gwasanaeth ar gael yma. Ar gael yn Saesneg yn unig.

Os ydych yn talu tâl gwasanaeth am lanhau ardaloedd cyffredin, dyma’r fanyleb y mae’n rhaid i’r contractwr glanhau lynu wrthi – Manyleb Glanhau Ardaloedd Cyffredin – Ardaloedd Cyffredin Ar gael yn Saesneg yn unig.

Os ydych yn talu tâl gwasanaeth am gynnal a chadw tir, dyma’r fanyleb y mae’n rhaid i’r contractwr cynnal a chadw tir lynu wrthi – Ardaloedd Cyffredin – Manyleb y Contract Cynnal a Chadw Tir Ar gael yn Saesneg yn unig.

Os ydych yn byw mewn cynllun tai gwarchod neu gynllun gofal ychwanegol, mae’r manylebau ar gyfer glanhau ardaloedd cyffredin a chynnal a chadw tir yn wahanol

Manyleb Glanhau Ardaloedd Cyffredin – Cynlluniau Tai Gwarchod Ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynlluniau Tai Gwarchod a Chartrefi Gydol Oes – Manyleb y Contract Cynnal a Chadw Tir Ar gael yn Saesneg yn unig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am daliadau gwasanaeth neu unrhyw adborth am y gwasanaethau rydych yn eu cael, mae croeso i chi gysylltu â ni yn [email protected]

Gallwch ddysgu am hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid o safbwynt taliadau gwasanaeth yma – Hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid – taliadau gwasanaeth Ar gael yn Saesneg yn unig.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →