Arwydd bach o ddiolch gan ateb

Rydym yn gwybod bod Covid-19 wedi effeithio’n fawr arnoch chi, ein cwsmeriaid, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaethau wedi parhau lle bynnag yr oedd hynny’n bosibl, a gwnaethom gyflwyno pecynnau cymorth er mwyn ceisio hybu lles ein cwsmeriaid.

Mae eich amynedd a’ch dealltwriaeth drwy gydol y cyfnod anodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy, a hoffem ddweud diolch drwy roi taleb gwerth £10 i chi.

Llenwch y ffurflen isod i hawlio eich taleb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Telerau a’r Amodau a’r Cwestiynau Cyffredin sydd ar waelod y dudalen hon cyn llenwi’r ffurflen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch ebost i: [email protected]

 

[contact-form-7 id=”16376″ title=”Voucher Application”]

 

Telerau ac amodau talebau
  • Mae’r talebau wedi’u cyfyngu i un daleb ar gyfer pob un o aelwydydd ateb*.
  • Bydd ceisiadau i Gynllun Talebau Diolch ateb yn cau ganol dydd, dydd Mercher 7fed Gorffennaf 2021. Byddwn yn ceisio dosbarthu’r talebau erbyn canol mis Gorffennaf.
  • Ni fydd cwsmeriaid a symudodd i mewn i’w cartref ar ôl 1 Ebrill 2021 yn gymwys ar gyfer Cynllun Talebau Diolch ateb.
  • Ni chaniateir i aelodau o dîm ateb wneud cais i Gynllun Talebau Diolch ateb.
  • Bydd yr holl dalebau’n cael eu rhoi yn ôl disgresiwn ateb.

*Ac eithrio cwsmeriaid sy’n byw mewn cynlluniau byw â chymorth, a reolir gan ddarparwyr cymorth allanol heblaw ateb.

 

Cwestiynau Cyffredin

C: Pam y mae angen i chi gael fy nyddiad geni a fy rhif Yswiriant Gwladol?

Mae angen i ni gael ffordd o gadarnhau mai chi ydych chi, a byddwn yn croesgyfeirio’r manylion y byddwch yn eu rhoi am eich dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Gwladol â’r wybodaeth sydd gennym eisoes yn eich cyfrif.

C: Pam yr ydych yn gofyn cwestiynau am grŵp ethnig, cenedligrwydd, hunaniaeth o ran rhywedd, anableddau, cyfeiriadedd rhywiol a chredoau crefyddol?

Caiff y rhain eu galw’n nodweddion gwarchodedig, ac rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn helpu i sicrhau bod ein polisïau, ein harferion a’n gweithgareddau yn deg ac nad ydynt yn effeithio’n anghymesur ar wahanol grwpiau.

Nid oes angen i chi ddarparu’r wybodaeth hon er mwyn cael eich taleb gwerth £10.

C: Beth y byddwch yn ei wneud â’r wybodaeth sydd ar y ffurflen hon?

Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt (eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad ebost) i ddiweddaru’r manylion sydd yn eich cyfrif gydag ateb (os yw’r manylion wedi newid) ac yna i gysylltu â chi yn y dyfodol am faterion sy’n ymwneud â’ch tenantiaeth.

Byddwn yn defnyddio eich dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Gwladol i gadarnhau mai chi ydych chi, drwy eu cymharu â’r manylion sydd gennym eisoes yn eich cyfrif. Byddwn yn defnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol i ddiweddaru eich cyfrif os nad yw’r wybodaeth honno gennym eisoes, ac mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i wirio eich manylion.

Nid oes angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol i gael eich taleb gwerth £10.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir am nodweddion gwarchodedig i greu ystadegau am ein sylfaen gwsmeriaid, er mwyn ein helpu i wella ein gwasanaethau, ein polisïau, ein harferion a’n gweithgareddau. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data.

Nid oes angen i chi ddarparu’r wybodaeth am nodweddion gwarchodedig i gael eich taleb gwerth £10.