Prosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a weithredir gan ateb yw ‘Get Connected’. Mae’n helpu ein cymunedau i fynd ar-lein, arbed arian a chysylltu â’r rhyngrwyd.
Bydd Dot.e, sef ein fan cymorth digidol MiFi newydd sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, yn dod â’n Tîm Cymorth Digidol i stepen eich drws.
Gallwn roi cymorth a chyngor i chi a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i’r byd sydd ar-lein.
Beth y gall ‘Get Connected’ ei wneud i chi?
Gallwn:
- eich helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol a dysgu sut mae rheoli eich cyfrif ar-lein.
- eich cynorthwyo i ddefnyddio gwefannau chwilio am swyddi, cwblhau ceisiadau, ymgeisio am swyddi, a chreu a defnyddio CV a llythyr eglurhaol.
- rhoi hyfforddiant TG sylfaenol i chi, gan eich helpu i fynd ar-lein a chael mynediad i fyd newydd, llawn gwybodaeth.
- eich cynorthwyo i arbed arian, gan eich helpu i gymharu prisiau pethau megis contractau ffôn symudol, yswiriant car/cartref, prisiau nwy a thrydan, prisiau wrth siopa a llawer mwy.
- rhoi cyngor a chymorth i chi fynd ar-lein gartref, gan gymharu pecynnau llinell ffôn a band eang er mwyn sicrhau eich bod yn cael y fargen orau sy’n addas i’ch anghenion.
- eich helpu i ddefnyddio gwefan Fy Nghyfrif ateb er mwyn i chi allu gweld eich cyfriflenni rhent yn gyflym, sôn am waith atgyweirio angenrheidiol a’i dracio, a chysylltu ag ateb yn hwylus.
Ymhlith llawer o bethau eraill!
Gofyn am apwyntiad…
Cysylltwch â’n Tîm Cymorth Digidol drwy lenwi ein Ffurflen Ar-lein.
Fel arall, gallwch ein ffonio’n uniongyrchol ar 01437 774775.
Beth os ydych yn sefydliad sy’n gobeithio defnyddio Dot.e?
Mae gennym nifer gyfyngedig o ddiwrnodau bob blwyddyn pan all sefydliadau eraill ddefnyddio Dot.e a’n Tîm Cymorth Digidol i weithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwasanaethau i’w cleientiaid. Er enghraifft: gwasanaeth cynghori cenedlaethol sydd am ddarparu allgymorth mewn ardal wledig yn Sir Benfro, lle nad oes adeiladau ar gael i ddarparu allgymorth – gallai ‘Get Connected’ weithio mewn partneriaeth i ddarparu allgymorth unwaith y mis am 6 mis er mwyn rhoi prawf ar y galw am wasanaeth, gan ddarparu cymorth o ran TG ar yr un pryd.
Os hoffech chi ddefnyddio Dot.e a’n Tîm Cymorth Digidol, hoffem glywed gennych. Ffoniwch 01437 774775 neu e-bostiwch [email protected]
Am fod yn wirfoddolwr digidol?
Mae ar lawer o bobl angen help, cymorth a chyngor i fynd ar-lein – pobl nad ydynt yn ddigon hyderus i ddilyn cwrs neu nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny. Gall bod yn wirfoddolwr digidol a helpu eraill i fynd ar-lein roi llawer o foddhad, a bydd yn edrych yn wych ar eich CV.
Drwy roi cyn lleied â 2 awr yr wythnos, gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Dan arweiniad ein Cydlynydd Cymorth Digidol, byddwch yn helpu eraill i ddefnyddio cyfrifiadur neu lechen am y tro cyntaf, mynd ar-lein, creu a defnyddio cyfeiriad ebost, defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, siopa ar-lein, cymharu prisiau cynnyrch, neu amryw weithgareddau sy’n deffro diddordeb rhywun mewn mynd ar-lein.
Byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru i Arwyr Digidol a hyfforddiant Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i wirfoddolwyr, a byddwch hefyd yn cael llawer o gynghorion gan ein Cydlynydd Cymorth Digidol. Caiff sesiynau cymorth eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Sir Benfro ar Dot.e – ein fan cymorth digidol.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’n Cydlynydd Cymorth Digidol ar 01437 774775 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Ac yn olaf…
Mae prosiect ‘Get Connected’ wedi croesi’r hanner ffordd ac rydym wedi creu fideo bach i ddangos rhai o’r pethau da yr ydym wedi’u cyflawni. Mae llawer mwy i ddod!