Yn gynharach y mis hwn gwnaethom osod ein hail gartref yn Hwlffordd, Sir Benfro, sydd wedi’i ariannu gan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.
Mae’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn rhoi cyllid grant er mwyn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddarparu llety tymor hwy ac o safon yn gyflym i gynorthwyo’r sawl sy’n wynebu angen o ran tai (sef pobl sydd mewn llety dros dro neu lety cychwynnol at ddiben ailsefydlu). Nod rhaglen Llywodraeth Cymru yw creu dros 1,000 o gartrefi ychwanegol yng Nghymru cyn pen 18 mis.
Mae hynny’n golygu ein bod wedi gallu gwneud llawer o welliannau i’r eiddo hwn yn Hwlffordd, a’i osod i deulu a fu’n byw mewn llety dros dro am dros 2 flynedd.
Dyma rai o’r pethau a gafodd eu gwella:
- hygyrchedd, er enghraifft drwy osod ramp wrth fynedfa’r eiddo, creu lôn newydd ar gyfer yr eiddo a gwella’r ardd.
- effeithlonrwydd ynni, er enghraifft drwy ddefnyddio dulliau uwch-dechnoleg i inswleiddio’r eiddo a gosod system gwres canolog eco-glyfar.
- diogeledd, a oedd yn cynnwys gosod ffenestri a drysau gradd A, sy’n ddiogel o ran eu dyluniad.
- diogelwch, a oedd yn cynnwys darparu systemau trydan, gosodiadau a ffitiadau newydd.
- amwynderau, a oedd yn darparu’r lefel gywir o lety ar gyfer anghenion y teulu penodol hwn.
Meddai Nick Hampshire, Prif Weithredwr ateb:
“Mae gweld ein heiddo diweddaraf sydd wedi’i ariannu gan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn barod i groesawu teulu newydd yn rhoi boddhad mawr. Mae llawer iawn o welliannau wedi’u gwneud i’r cartref, o systemau gwresogi eco-glyfar i fwy o inswleiddio a llawer o nodweddion sy’n gwella hygyrchedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o deuluoedd yn y gorllewin yn gallu cael gafael ar dai o safon, ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’r cymorth cywir. Rwy’n falch o’r gwaith y mae ein tîm wedi’i gyflawni i drawsnewid y tŷ hwn yn gartref diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n falch bod mwy o gartrefi i ddod.”
Mae ateb yn bwriadu defnyddio arian y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro i wella 7 eiddo arall eleni, ac mae 2 eiddo pellach yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid hwn yn hollbwysig o ran helpu ateb i sicrhau bod ei eiddo strategol sy’n wag ers amser (sef cartrefi y mae angen gwneud llawer o waith iddynt) yn dychwelyd i’r gofrestr tai, gan ddarparu cartrefi cymdeithasol y mae eu hangen yn fawr ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.