Mae ateb yn Gymdeithas Dai ac yn rhiant-gwmni i Mill Bay Homes, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac Effective Building Solutions.
Mae ein grŵp o gwmnïau’n gweithio ledled gorllewin Cymru, a’u diben ar y cyd yw ‘creu atebion gwell o ran byw’ ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.
Ar hyn o bryd mae gennym tua 2,800 o gartrefi, yn Sir Benfro yn bennaf, yr ydym yn eu gosod am rent cymdeithasol neu rent canolradd. Mae ateb yn cydweithio’n agos â’i awdurdod lleol a’i bartneriaid eraill i ddatblygu tua 150 o gartrefi newydd bob blwyddyn, er mwyn diwallu’r angen am dai fforddiadwy drwy ystod o ddeiliadaethau megis tai i’w rhentu, cynlluniau rhentu i brynu neu gynlluniau rhanberchnogaeth.
Mae tîm grŵp ateb yn cynnwys tua 130 o aelodau a mwy fyth o bartneriaid a chyflenwyr yn ein cadwyn gyflenwi ehangach. Mae ein holl weithgareddau’n cael eu llywodraethu gan ein Bwrdd ac yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru.