Mae eu cyfrifoldebau llywodraethu lefel uchel yn canolbwyntio ar:
Caiff gweledigaeth y Bwrdd ynghylch sut y dylai ateb gyflawni ei rwymedigaethau ei hegluro mewn dogfen o’r enw ‘Vision’. Mae’r Bwrdd yn monitro ateb ar sail y ddogfen hon er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu’n effeithiol.
Mae’r Bwrdd yn gweithredu’n unol â ‘Fframwaith Rheoleiddio’ Llywodraeth Cymru ac mae’n cwrdd tua 12 gwaith y flwyddyn. Mae ganddo nifer o is-bwyllgorau i’w gynorthwyo gyda’i waith:
Mae gan bob un o’n his-gwmnïau, sef Mill Bay Homes, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac Effective Building Solutions, eu Byrddau eu hunain sy’n adrodd wrth riant-Fwrdd ateb yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Cadeirydd
Mae gan David brofiad helaeth o weithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Dechreuodd ar ei yrfa fel Drafftsmon Peirianneg Drydanol cyn symud i weithio fel Rheolwr Cyfleusterau gyda BT gan ennill cymhwyster ôl-raddedig mewn Astudiaethau Rheoli. Ymunodd David â’r GIG yn 1994 fel Cyfarwyddwr Cyfleusterau yng Ngwent cyn ymgymryd â swydd y Pennaeth Gwasanaethau Contractau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 2004 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a phenderfynodd ymddeol yn 2010. Mae gan David brofiad o weithio yn y sector tai, oherwydd bu’n Is-gadeirydd ac yna’n Gadeirydd cymdeithas dai yng Nghaerdydd am 6 blynedd cyn ymuno ag ateb.
Is-gadeirydd
Mae Hugh yn rheolwr profiadol ar lefel Bwrdd ar ôl iddo fod yn gweithio ar lefel strategol yn rhyngwladol gyda rhai o gwmnïau mawr rhagorol y FTSE 100 mewn meysydd allweddol megis Gwerthu, Marchnata, TG, Caffael a Logisteg. Mae gan Hugh gymhwyster ôl-raddedig ac arferai fod yn swyddog â chomisiwn yn y fyddin. Bu’n gwasanaethu ym myddin Awstralia ac ym myddin Prydain.
Mae Jade yn Frocer/Rheolwr Morgeisi Annibynnol yn Willcox Financial Limited ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio fel uwch-swyddog yn y sector bancio. Mae gan Jade brofiad helaeth o ddarparu cyngor ariannol i gleientiaid ac mae ganddi Ddiploma mewn Cyflawni Busnes ym maes Bancio Manwerthol.
Mae Julia yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes i Grŵp Aster, sef cymdeithas dai a darparwr gofal yn ne Lloegr. Mae gan Julia flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes tai, datblygu a gofal, ar lefel weithredol a lefel strategol, ac arferai fod yn Brif Weithredwr cymdeithas dai Central & Cecil a unodd â Grŵp Aster yn 2022. Ar hyn o bryd, mae Julia yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth y grŵp ynghylch heneiddio, ac mae’n gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd newydd o ran busnes ar draws y grŵp. Mae Julia yn Aelod o Grŵp Llywio Bwrdd ar gyfer adroddiad cam 2 ‘Darparu Tai ar gyfer ein Poblogaeth sy’n Heneiddio: Panel Arloesi’, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn heneiddio. Mae gan Julia Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.
Mae Owen yn Gyfarwyddwr ymgynghoriaeth annibynnol ym maes cynllunio trefol, sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ym maes cynllunio a datblygu, ac mae’n Gynllunydd Trefol Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Mae gwaith Owen ar hyn o bryd yn ymwneud â gweithio gyda thirfeddianwyr a datblygwyr preifat ar ystod o gynlluniau datblygu strategol sy’n cynnwys safleoedd o bwys ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg; hyrwyddo cynlluniau datblygu; ymdrin â cheisiadau cynllunio; cynnal Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol; ac ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd. Mae gan Owen radd MSc mewn Datblygu Eiddo Preswyl.
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected] →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →