Ein Timau Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Mae pob un o’n timau yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ond y timau canlynol sy’n darparu mwyafrif ein gwasanaethau rheng flaen.

Ein Timau Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

TȊM GWASANAETHAU I GWSMERIAID – YMHOLIADAU CYFFREDINOL

Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau a gawn yn ymholiadau dros y ffôn, drwy ebost neu drwy gyfryngau cymdeithasol, a chânt eu hateb gan aelodau ein Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Gallant ymdrin â’r rhan fwyaf o’ch anghenion o ddydd i ddydd o ran gwasanaeth, a nhw yw’r man cychwyn gorau bob tro.

TȊM GWASANAETHAU I GWSMERIAID – GWAITH ATGYWEIRIO

Mae llawer o’r ymholiadau a gawn gan ein cwsmeriaid yn ymwneud â gwaith atgyweirio, ac mae gennym dîm pwrpasol i’ch helpu.

Tîm Atebion o ran Tai

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, gall ein Tîm Atebion o ran Tai eich helpu gydag unrhyw faterion sy’n ymwneud â thenantiaeth, er enghraifft rhent, gosod tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ati.

Y FENTER YMGYSYLLTU

Mae ein Tîm Datblygu Cymunedol yn helpu cwsmeriaid i wella’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, yn darparu rhai gwasanaethau cymorth arbenigol, yn ymgysylltu â chwsmeriaid i ofyn ‘beth sy’n bwysig i chi?’ ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau.

Y TÎM ATEBION O RAN CYMORTH

Mae ein Tîm Byw’n Annibynnol yn cynnig cymorth penodol i bobl hŷn yn ein cynlluniau Byw’n Annibynnol ac yn y gymuned.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →