Rydym yn credu bod byw’n well yn dechrau gyda lle y gallwn ei alw’n gartref.
Mae cartref yn fwy na thŷ yn unig; mae’n amgylchedd diogel a sefydlog sy’n galluogi pobl i fyw eu bywydau. Ni all pawb lwyddo i wneud hynny heb help, a byddwn yn creu amrywiaeth o atebion er mwyn helpu a chefnogi pobl a chymunedau i greu mwy o gartrefi.
Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd creadigol o:
- Ymateb i angen am dai.
- Helpu pobl i gynnal eu tenantiaeth.
- Cynorthwyo cymunedau i adeiladu capasiti a bod yn hunangynhaliol.
- Adfywio cymunedau drwy raglenni cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a ffisegol.
- Helpu pobl hŷn a bregus i aros yn eu cartrefi a’u cymunedau pan fydd eu ffordd o fyw’n newid.