Mae ein Tîm Rheoli Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Tai a’r Cyfarwyddwr Eiddo.
Ar y cyd, mae’r tîm yn troi cyfeiriad strategol a chorfforaethol y Bwrdd yn waith cyflawni gweithredol. Dyma’r tîm:
Prif Weithredwr
Mae Nick wedi bod yn gweithio i gymdeithasau tai ers dros 25 mlynedd, mewn swyddi ym maes datblygu eiddo a buddsoddi yng Nghymru a Lloegr cyn ymgymryd â’r swydd hon. Mae Nick yn awyddus i wella ac ehangu gwasanaethau ateb i gwsmeriaid, drwy rymuso a datblygu timau gwych a gefnogir gan drefniadau cydweithio cadarn â chwsmeriaid a phartneriaid ateb a’r cymunedau ehangach y mae ateb yn eu gwasanaethu.
Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid
Mae Mark wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio fel uwch-swyddog gweithredol yn Llundain yn y sector statudol a’r sector gwirfoddol. Fel Pennaeth Digartrefedd buodd yn arwain y gwaith o leihau nifer y bobl sy’n cysgu allan yng nghanol Llundain tan 2008, pan benderfynodd ddychwelyd adref i Gymru ar ôl treulio bron 20 mlynedd yn y ddinas. Mae Mark wedi rhoi pwys mawr erioed ar sicrhau bod y cwsmer wrth wraidd pob peth a wna, ac mae bob amser yn awyddus i sicrhau rhagoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau.
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid
Mae ein Uwch Dîm Rheoli yn cynnwys y prif reolwyr ar gyfer pob un o’n meysydd gwasanaeth. Eu rôl nhw yw sicrhau bod Cynllun Darparu Gwasanaethau ateb yn cyflawni’r canlyniadau iawn o ran gwasanaeth, a hynny’n effeithlon gan sicrhau profiad gwych i gwsmeriaid.
Pennaeth Eiddo
Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
Rheolydd Ariannol
Pennaeth Datblygu
Pennaeth Cwsmeriaid
Pennaeth Systemau Digidol
Rheolwr Pobl a Chyfathrebu
Pennaeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru
Pennaeth Gwerthu, Mill Bay Homes
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected] →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →