Cewch hwyl wrth wneud gwahaniaeth…
Byddwch yn rhan o dîm sy’n anelu yn uchel. Rydym yn datblygu amgylchedd tîm er mwyn ceisio gwneud mwy yn gyson er budd y cwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu, drwy ddulliau hyblyg ac ystwyth o weithio. Mae ein DNA yn ateb yn adlewyrchu sut y dylai gweithio i ateb deimlo, ac rydym yn gobeithio bod ein dull gweithredu yn cyfateb i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano. Pam ni?
Mae DNA ateb yn canolbwyntio ar ymddiriedaeth, cydberthynas a grymuso.
Helpwch ni i ffurfio ein DNA a bod yn driw iddo…
-
#YmddiriedYnochChi
-
#HybuHygyrchedd
-
#CyflawniCanlyniadau
Mae ein DNA wedi’i ddatblygu er mwyn ein galluogi i wneud ein gorau glas a bod gystal ag y gallwn er budd y cwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd ein diwylliant sefydliadol yn eich annog i wneud penderfyniadau, perchenogi’r gwasanaethau a ddarperir gennych a’u gwella, ac mae’n cydnabod bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn y gwaith o ddatblygu dull o arwain sy’n canolbwyntio ar bobl ac ar ganlyniadau. Cael gwybod mwy am ein DNA a’n dull o arwain.
ANELU’N UCHEL
Helpwch ni i gyflawni mwy…
Mae ein diben a’n cynllun strategol yn adlewyrchu ein huchelgais i beidio ag aros yn llonydd. Rydym am roi mwy i’n cwsmeriaid drwy gael ein herio a thrwy arloesi gyda’n gwasanaethau. Cymerwch olwg ar ein blaenoriaethau strategol i weld beth yr ydym yn canolbwyntio arno a sut yr ydym yn perfformio. Cliciwch i gael gwybod mwy am ein cynllun strategol.
EIN GWEITHLE
Helpwch ni i arloesi gyda’r modd yr ydym yn gweithio…
Mae ein tîm Cynnwys i Wella wedi datblygu cynigion ynghylch sut y dylai gweithle ateb edrych a theimlo. Rydym yn creu dulliau mwy hyblyg ac ystwyth o weithio, gan ddefnyddio technoleg cwmwl i’n galluogi i gael mynediad i’n systemau o amryw leoliadau. Bydd ein swyddfeydd yn cael eu hailystyried fel eu bod yn adlewyrchu ein DNA, ac mae ein hamodau a’n telerau yn cael eu hailwampio er mwyn sicrhau ein bod yn denu ac yn cadw pobl wych ar gyfer ein tîm. Dylai hynny blesio pawb!
GWOBRWYO A CHYNNIG BUDDION
Yn ateb, rydym yn gwobrwyo staff am eu gwaith caled drwy ddarparu ystod o fuddion sy’n galluogi ein cydweithwyr i gael bywyd hyblyg ac iach o ran gwaith. Mae ein timau’n ein helpu i ddatblygu ein trefniadau ar gyfer gwobrwyo a chynnig buddion. Mae’r rhain i’w gweld yn ein dogfen ‘working @ ateb’ a gallwch weld y ddogfen drwy glicio yma.
- Cyflogau sy’n cael eu meincnodi’n rheolaidd.
- 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (pro rata) yn ogystal â gwyliau banc a thridiau ychwanegol.
- Tâl salwch galwedigaethol (ar ôl cyfnod prawf llwyddiannus).
- Pensiwn (bydd gofynion ynghylch cymhwysedd yn berthnasol).
- Aelodaeth am ddim o’n cynllun gofal iechyd (bydd gofynion ynghylch cymhwysedd yn berthnasol).
- Cloc ymddiriedaeth a chyfleoedd i weithio’n ystwyth.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu.
- Hawl i barcio am ddim ar ein safleoedd.
- Prawf golwg am ddim a chyfraniad at gost sbectol.
- Diwrnodau gwirfoddoli.
- Rhaglen lesiant.
- Cyfleoedd i fod yn rhan o dîm, e.e. y Grŵp Digwyddiadau Elusennol, Fforwm y Tîm Cynnwys i Wella.
SUT YR YDYM YN CYTUNO AR GYFLOGAU YN ateb
Rydym yn ceisio denu’r sgiliau a’r profiadau gorau i ateb, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gwarchod y buddsoddiad sydd ar gael i ni wella’r gwasanaethau a ddarperir a datblygu cartrefi newydd ledled y gorllewin. Cliciwch yma yma i weld rhagor o fanylion ynghylch sut yr ydym yn cytuno ar gyflogau a threfniadau gwobrwyo eraill yn ateb.
Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol ein huwch-reolwyr bob blwyddyn yn ein cyfrifon blynyddol. I gael rhagor o fanylion am gydnabyddiaeth ariannol ein huwch-reolwyr, gallwch hefyd ddarllen adroddiad Cartrefi Cymunedol Cymru ynghylch Tryloywder Tâl.
DYSGU A DATBLYGU
Mae ateb wedi ymrwymo i gynorthwyo ein tîm drwy ystod eang o weithgareddau dysgu, sy’n amrywio o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i gymwysterau proffesiynol megis Diploma gan y Sefydliad Tai Siartredig.
I gynorthwyo ein cydweithwyr i gyflawni eu nodau o ran dysgu a datblygu, mae nifer o opsiynau cymorth ar gael sy’n cynnwys:
- Diwrnodau astudio ac absenoldeb astudio.
- Talu ffïoedd aelodaeth myfyriwr.
- Cymorth mentor.
CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT
Rydym wedi llofnodi adduned Tai Pawb, Gweithredu, Nid Geiriau ac wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd.
Ydych chi’n berson anabl neu’n berson Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol? Os byddwch yn llenwi ein ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydym yn gwarantu y byddwn yn eich cyfweld os byddwch yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Ni fydd y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn gallu gweld y ffurflen; fodd bynnag, bydd y Tîm Pobl yn cael gwybod eich bod wedi dewis un o’r categorïau nodweddion gwarchodedig a restrir uchod, er mwyn galluogi’r tîm i adolygu eich cais yn erbyn y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Os hoffech gael gwybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni yma: [email protected]
Pam ni? … Ydych chi’n berson tebyg i hyn? Os felly, cliciwch yma i weld ein swyddi gwag ar hyn o bryd.