Aelodaeth o’r Bwrdd

Mae bod yn aelod o Fwrdd ateb yn eich rhoi mewn sefyllfa wych i wneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl ar draws y gorllewin.

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gyda Llywodraeth Cymru (a elwir yn fwy cyffredin yn Gymdeithas Dai) yw ateb, a chaiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol fel Cymdeithas Budd Cymunedol (neu sefydliad nid-er-elw). Mae ein strwythur cyfreithiol yn mynnu bod gennym Fwrdd Rheoli i bennu a monitro ein Fframwaith Llywodraethu. Gall y Bwrdd gynnwys hyd at 12 Aelod Bwrdd llawn a 3 Aelod Bwrdd cyfetholedig. Ewch yn eich blaen i ddarllen mwy am Aelodaeth o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn goruchwylio trefniadau llywodraethu’r Gymdeithas, h.y. ei strategaeth, ei pherfformiad a’r gwaith o bennu a monitro risgiau. Mae aelodau’r Bwrdd yn cydweithio’n agos ag aelodau cyflogedig y tîm er mwyn deall ar y cyd y materion sy’n effeithio ar y Gymdeithas, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwella a thyfu. Mae ar ein math ni o sefydliad angen Bwrdd sydd ag ystod o wahanol sgiliau a safbwyntiau, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer anghenion amrywiol ein cwsmeriaid a’n cymunedau ar draws y gorllewin. Fel aelod o’r Bwrdd:

  • Byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i helpu’r Gymdeithas i wella mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Byddwch yn rhan o broses benderfynu a fydd yn helpu i newid bywydau pobl.
  • Byddwch yn rhan o dîm ymroddedig.
  • Byddwch yn cael eich annog i herio’n adeiladol, sy’n elfen allweddol o Fwrdd llwyddiannus.
  • Byddwch yn gallu manteisio ar hyfforddiant a chymorth er mwyn helpu i lenwi bylchau yr ydych wedi’u nodi yn eich gwybodaeth neu’ch sgiliau.
  • Byddwch yn cwrdd ag amrywiaeth o bobl newydd a chysylltiadau ar draws y sector tai.
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth dda o’r prif broblemau ym maes tai a’r prif broblemau cymdeithasol sy’n wynebu ein cymunedau.
  • Byddwch yn dysgu sgiliau technegol newydd.
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio ar brosiectau gorchwyl a gorffen penodol sy’n archwilio meysydd penodol yn fanylach.
  • Byddwch yn GWNEUD GWAHANIAETH!

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed gan ddarpar aelodau o’r Bwrdd, felly mae croeso i chi anfon e-bost i’n tîm Adnoddau Dynol yn [email protected] gan ofyn i rywun eich ffonio i drafod unrhyw ymholiadau, neu mae croeso i chi ymgeisio’n awr drwy glicio yma ac fe drefnwn ni gyfarfod.

I’ch cynorthwyo, rydym wedi crynhoi nifer o Gwestiynau Cyffredin er mwyn eich helpu i asesu a yw Aelodaeth o’r Bwrdd yn addas i chi:

Pwy sy’n gallu dod yn aelod o’r Bwrdd?

Yn amodol ar fodloni ychydig o ofynion o ran cefndir, unrhyw un sydd â’r sgiliau neu’r profiad y mae ar y Bwrdd eu hangen.

Dydw i ddim wedi gweithio ers tipyn, a fyddech yn dal yn awyddus i fy nghael yn aelod?

Os oes gennych y sgiliau a’r profiad y mae’r Bwrdd yn chwilio amdanynt, byddem yn dal yn awyddus i’ch cael yn aelod. Gallech fod wedi ennill eich sgiliau a’ch profiad drwy amryw leoliadau, ac nid drwy waith gyda thâl yn unig.

Dydw i ddim yn deall cyllid, felly rwy’n cymryd y byddwn i’n cael fy niystyru?

Na fyddech. Mae’r Bwrdd yn ymwneud â nifer o wahanol faterion ariannol, a byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth dda ohonynt. Mae gennym hefyd gyngor mewnol ac allanol y gallwn droi ato. At hynny, byddwn yn ceisio sicrhau bob amser bod o leiaf un aelod â sgiliau ariannol yn parhau’n aelod o’r Bwrdd.

Faint o amser y mae angen ei neilltuo ar gyfer y rôl?

Rydym yn cynnal 10 o gyfarfodydd Bwrdd bob blwyddyn, un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, un diwrnod cwrdd i ffwrdd, a digwyddiadau hyfforddi eraill yn ôl y gofyn. Rydym wedi amcangyfrif bod angen neilltuo o leiaf 92 awr y flwyddyn ar gyfer y rôl. At hynny, gall aelodau’r Bwrdd ddewis a ydynt am berthyn i bwyllgorau a gweithgorau eraill ai peidio.

Oes rhaid bod gen i gymwysterau ffurfiol?

Nac oes. Mae gennym fwy o ddiddordeb yn y sgiliau a’r profiadau y byddwch yn gallu eu cyfrannu i’r Bwrdd. Byddwn yn gofyn i chi ddangos sut y gall eich sgiliau a’ch profiadau gael eu trosglwyddo i gyd-destun ein Bwrdd. Yn amlwg, gall eich cymwysterau eich helpu i esbonio hynny ond nid ydynt yn orfodol.

Pwy sy’n aelodau o’r Bwrdd yn barod, a sut mae modd i fi wybod y byddant yn fy nghroesawu?

Rydym yn sylweddoli y bydd cael aelodau Bwrdd o gefndiroedd amrywiol, sydd â phrofiadau a enillwyd o ystod o safbwyntiau, yn siŵr o gyfoethogi’r hyn a wnawn. Ewch i’n tudalennau cwrdd â ni i gael rhagor o wybodaeth am aelodau presennol y Bwrdd. Rydym yn deall y gall ymuno ag unrhyw grŵp newydd fod yn frawychus. Dyna pam rydym yn ceisio rhoi darlun da o’r Bwrdd i bawb cyn iddynt ymuno, a chynnig proses sefydlu wedi’i theilwra wedyn er mwyn helpu aelodau newydd i ymgartrefu.

Mae’n swnio fel llawer o gyfrifoldeb. Pa risgiau sydd ynghlwm wrth fod yn aelod o’r Bwrdd?

Fel aelod o’r Bwrdd, byddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch y modd y caiff y busnes ei redeg a bydd angen i chi lynu wrth ein cod llywodraethu. Mae gan Lywodraeth Cymru, fel ein prif reoleiddiwr, y pŵer i ymyrryd pan na fydd pethau’n mynd yn dda, a gallai hynny olygu newid cyfansoddiad y Bwrdd. Fel rheol, mae gan ateb yswiriant ar gyfer gwaith aelodau’r Bwrdd.

Pam y mae pobl yn dod yn aelodau o’r Bwrdd?

Am amryw resymau. Mae llawer am roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau, mae rhai am ehangu eu sgiliau neu’u gwybodaeth, ac mae eraill yn ystyried bod aelodaeth o’r Bwrdd yn ffordd o’u helpu i ddatblygu eu gyrfa.

A yw aelodau’r Bwrdd yn cael eu talu?

Caiff aelodau Bwrdd ateb a Mill Bay Homes gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer eu rôl. Fodd bynnag, nid ystyrir ei bod yn briodol rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau Bwrdd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru oherwydd ei statws fel cwmni ac oherwydd ei faint a’i drefniadau cyllido.

Pa mor hir y gallaf barhau’n aelod o’r Bwrdd?

Naw mlynedd yw’r cyfnod hiraf. Yn gyffredinol, mae aelodaeth o’r Bwrdd yn para o’r naill Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol i’r llall, gyda rheolau penodol ynghylch ailethol. Gall aelodau cyfetholedig ymuno yn ystod y flwyddyn, yn dibynnu ar ofynion penodol y Bwrdd. Maent yn rhannu cyfrifoldebau Aelod Bwrdd llawn, ac eithrio’r hawl i bleidleisio ynghylch rhai materion, e.e. rheolau’n ymwneud â chyfranddalwyr.

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →