Yn ateb, rydym yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau ar draws y grŵp.
Gallwch ddatblygu gyrfa wrth i chi ennill arian a dysgu ochr yn ochr â’n timau profiadol.
Fel un o brentisiaid ateb:
- Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol a bydd gennych fentor penodedig.
- Byddwch yn dysgu sgiliau perthnasol wrth weithio.
- Byddwch yn ennill cyflog ac yn cael tâl gwyliau.
- Bydd gennych hawl i’n holl wobrau a’n holl fuddion*.
- Bydd gennych hawl i gael diwrnodau astudio er mwyn ennill cymhwyster perthnasol.
- Byddwch yn cael deunydd perthnasol ar gyfer cwrs, megis llenyddiaeth neu offer gorfodol.
*Yn amodol ar gymhwysedd. Gallai cyfyngiadau oedran fod yn berthnasol.
Rydym yn hysbysebu prentisiaethau yn unol â’n hanghenion o ran gwasanaeth. Cliciwch yma i weld a oes gennym brentisiaeth wag ar hyn o bryd.
Ewch i’n hadran newyddion/digwyddiadau ar y wefan hon ac i’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol i chwilio am fanylion unrhyw ddiwrnodau agored lle byddwn yn darparu cyngor ac arweiniad am ymgeisio.
Scott Griffiths a Jason Pannell – Prentisiaid Gosod Ceginau
Ymunodd Scott a Jason â ni ym mis Medi 2016 ar ôl ymgeisio am y swyddi ar-lein.
Mae’r ddau yn astudio ar gyfer Diploma mewn Cynnal a Chadw, sy’n gymhwyster NVQ Lefel 2, yng Ngholeg Sir Benfro ar ddiwrnod astudio unwaith yr wythnos. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwnnw, byddant yn symud ymlaen i astudio ar gyfer cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Saer.
“Ar ôl bod yn gweithio yn Tesco ac fel Cwnstabl Gwirfoddol, roeddwn yn awyddus i ymgeisio am y brentisiaeth oherwydd ei bod yn rhoi gwaith llawn-amser i fi a’i bod hefyd yn rhoi cyfle i fi ennill sgiliau newydd mewn gwaith saer ac yn rhoi crefft i fi a fydd gen i am byth. Mae fy mentor, Rob Matera-Byford, wedi bod yn wych ac mae’n rhoi hyfforddiant a chefnogaeth wrth i fi weithio.” – Scott Griffiths
James Wostenholme – Prentis Technegydd Cyfrifyddu
Ar ôl bod yn gweithio yn Tesco, ymunodd James â ni ym mis Rhagfyr 2016 ar ôl gweld ein hysbyseb ar indeed.com
Bydd James yn dechrau ar ddiwrnodau astudio ym mis Medi 2017 er mwyn ennill cymhwyster AAT Lefel 2 yng Ngholeg Sir Benfro, ac yna bydd yn symud ymlaen i astudio ar gyfer cymwysterau Lefel 3 a Lefel 4.
“Fe wnes i ymgeisio am y brentisiaeth oherwydd fy mod am ddilyn gyrfa ym maes cyllid a bod hon yn ffordd dda o ddechrau arni. Rydw i wedi ymuno â thîm cyllid prysur ac wedi cael croeso cynnes tu hwnt. Rydw i wedi cael hyfforddiant yn barod ar nifer o raglenni meddalwedd sy’n ymwneud â chyllid, ac rydw i’n edrych ymlaen at roi’r cyfan ar waith pan fyddaf yn dechrau yn y coleg a thrwy gydol fy ngyrfa.” – James Wostenholme
Llun (o’r chwith i’r dde): James Wostenholme – Prentis Technegydd Cyfrifyddu, Scott Griffiths a Jason Pannell – Prentisiaid Gosod Ceginau