Mae ein cymunedau’n bwysig i ni ac rydym am fuddsoddi ynddynt.
Rydym wedi cefnogi nifer o leoliadau profiad gwaith a gwirfoddoli sy’n cynnwys diwrnodau astudio i fyfyrwyr, cynlluniau cyflogaeth lleol, profiad gwaith i ddisgyblion ysgol, cynlluniau ailsefydlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac unigolion sy’n dymuno meithrin sgiliau newydd a phrofiad.
Oes gennych chi ychydig oriau i’w sbario bob wythnos? Gallwch wneud gwahaniaeth yn eich cymuned drwy helpu i gynorthwyo ein tenantiaid sy’n byw yng Nghynlluniau Tai â Chymorth ateb.
Os ydych yn gweithio tuag at eich Gwobr Dug Caeredin, gall ateb eich helpu i gyflawni eich gweithgareddau gwirfoddoli. Cysylltwch â’ch arweinydd Gwobrau Dug Caeredin lleol neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol. I gael gwybod mwy am Wobrau Dug Caeredin, gwyliwch y fideo isod neu cliciwch yma i fynd yn syth i wefan Gwobrau Dug Caeredin.
“Mae’n amlwg bod gwirfoddoli yn rhan allweddol o gwblhau Gwobr Dug Caeredin, ond mae hefyd yn ffordd dda o hybu eich hunanhyder wrth gwrdd â phobl newydd. Trwy wirfoddoli gyda sefydliad fel ateb, mae’n arwydd bod eich gwaith gwirfoddol yn golygu rhywbeth i’r gymuned. Bydd y cynllun yn eich galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol, ac yn eich galluogi ar yr un pryd i gyflawni eich gweithgareddau gwirfoddoli yn rhwydd ar gyfer eich Gwobr Dug Caeredin.” — Cyfranogwr Gwobrau Dug Caeredin, 2018.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag ateb ar leoliad profiad gwaith neu wirfoddoli, cliciwch yma i gysylltu â’r tîm Pobl a Chyfathrebu.