![](https://www.atebgroup.co.uk/wp-content/uploads/2023/04/How-are-we-doing.png)
Mae angen eich adborth ar ateb ynghylch a ydym yn bodloni eich disgwyliadau neu beidio, neu’n gwneud yn well na’ch disgwyliadau.
Ewch i’n hadran adborth i weld y gwahanol ffyrdd y gallwch roi gwybod i ni sut hwyl rydym yn ei chael.
Sut hwyl rydym yn ei chael? Rhoi gwybod i chi am ein perfformiad…
Rydym am fod yn agored ynghylch ein perfformiad, felly byddwn yn defnyddio’r dudalen hon i gyhoeddi ein hystadegau a’n mesurau perfformiad allweddol. Mae’r adroddiadau canlynol ynghylch Darparu Gwasanaethau yn dangos rhywfaint o’r data ynghylch perfformiad allweddol yr ydym yn ei ddefnyddio i farnu perfformiad ein gwasanaethau a gweld sut hwyl rydym yn ei chael.
22/23:
21/22:
20/21:
19/20:
18/19:
Adolygiad ein rheoleiddiwr o’n perfformiad…
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ein trefniadau llywodraethu a’n trefniadau ariannol bob blwyddyn, ac mae mwy o wybodaeth am ei hadolygiad i’w chael yma. Mae ein hadolygiadau rheoleiddio i’w gweld isod:
21/22:
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Saesneg)
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Cymraeg)
20/21
There was no review in 2020/2021 due to Covid-19.
19/20:
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Saesneg)
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Cymraeg)
18/19:
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Saesneg)
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Cymraeg)
17/18
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Saesneg)
Adroddiad Asesiad Rheoleiddio ateb (Cymraeg)
Sut rydym yn cymharu â chymdeithasau tai eraill…
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tudalen ar y we i ddangos gwybodaeth safonol am berfformiad cymdeithasau tai ledled Cymru. Bydd yr adnodd yn cael ei ddatblygu gydag amser er mwyn helpu tenantiaid a rhanddeiliaid i ddeall perfformiad y sector.
Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai
Yw ateb ar y trywydd iawn?
Mae gennym Weledigaeth ynghylch ‘sut beth yw da’ i ateb, a Chynllun ynghylch sut yr ydym yn bwriadu gwireddu’r Weledigaeth honno. I weld copi o’n Gweledigaeth neu unrhyw un o’n dogfennau Hunanwerthuso blynyddol, ewch i’n tudalen Dogfennau.
Ein hymrwymiad o ran Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Rydym am i chi fod yn hapus ac yn fodlon â’r holl wasanaethau a gewch fel un o gwsmeriaid ateb.
Mae ein safonau gwasanaeth, sy’n ymdrin â’n hymrwymiadau i chi o ran cyfathrebu, yn egluro beth yn union y gallwch ei ddisgwyl gennym. Maent yn sôn wrthych am beth yr ydym yn ymrwymo i’w wneud ac am yr amserlen y gallwch ddisgwyl i ni lynu wrthi.
Dim ond yn Saesneg y mae ein safonau gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd, a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hynny’n ei achosi.