Amserau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Ni fydd ein timau a’n canolfan gyswllt ar gael o 12pm ddydd Iau 24 Rhagfyr tan 9.30am ddydd Llun 4 Ionawr 2021.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd ein llinellau ffôn yn cysylltu â darparwr gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith arferol, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau yn unig. Dylech wirio beth yn union yw argyfwng yma.

Mae’n bosibl y byddwn yn brysur iawn pan fydd ein llinellau ffôn yn agor am 9.30am ddydd Llun 4 Ionawr, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra gan obeithio y cewch chi amser wrth eich bodd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Cofiwch y bydd ein swyddfeydd ‘galw heibio’ ar gau tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Mae’r amserau agor hyn yn berthnasol i’n timau a’n canolfan gyswllt.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Cyhoeddwyd: 04/12/2020