Arbed Ynni, Arbed Arian

[email protected] neu ffoniwch 0800 854 568

Nod ein prosiect Arbed Ynni, Arbed Arian yw helpu ein cwsmeriaid, fel Simon isod, yn ystod yr Argyfwng Costau Byw.

Cysylltodd Simon ag ateb am nad oedd yn gallu fforddio olew a’i fod wedi bod heb wres a dŵr twym ers wythnosau. Aeth Dylan ati i’w helpu yn syth a llwyddodd i lenwi ei danc â pheth olew gwresogi. Gweithiodd gyda Simon i ddangos iddo sut mae defnyddio ei system gwres canolog a dŵr twym yn fwy effeithiol, a rhoddodd gyngor iddo hefyd am sut mae ymdrin ag arwyddion cynnar o leithder ac anwedd. Ond nid dyna’r cyfan. Aeth Dylan ati hefyd i:

  • gynnal archwiliad o incwm a budd-daliadau er mwyn sicrhau bod Simon yn cael yr holl help ariannol yr oedd ganddo hawl i’w gael.
  • gofyn i’r Tîm Byw’n Annibynnol wneud cais am Lwfans Gweini a chais i gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Blaenoriaeth.
  • trefnu bod ein tîm atgyweirio’n gwneud gwaith ar ffan echdynnu a oedd wedi torri, ac yn edrych ar y broblem o ran lleithder ac anwedd.
  • rhoi gwybodaeth i Simon, ar ôl cael cais ganddo i wneud hynny, am sut i gysylltu â Helpafiistopio.Cymru er mwyn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.
  • darparu papur gloyw rhad ac am ddim i’w roi y tu ôl i reiddiaduron i adlewyrchu’r gwres, er mwyn sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio mor effeithlon ag sy’n bosibl.

Os ydych yn ei chael yn anodd – ac rydym yn gwybod bod hynny’n wir am lawer o bobl ar hyn o bryd – cysylltwch â Cheryl a phrosiect Arbed Ynni, Arbed Arian ateb. Efallai y byddwch yn synnu at faint o help y gallwn ei roi i chi.

Ebost: [email protected] neu ffoniwch 0800 854 568

Gall Dylan, ein Swyddog Ynni Cartref:
  • Gynnal asesiad ynni cartref yn rhad ac am ddim er mwyn rhoi cyngor i chi ynglŷn ag arbed ynni
  • Adnabod cymorth ariannol a’ch helpu i gael y cymorth hwnnw er mwyn lleihau eich biliau ynni
  • Eich helpu i ddeall eich dyfeisiau rheoli tymheredd a’ch amseryddion, a’ch helpu i’w defnyddio’n well

Dyma ambell gyngor defnyddiol arall i’ch helpu i arbed ynni ac arbed arian.

1. Peidiwch â gadael dyfeisiau yn y modd segur

Gallwch arbed tua £40 y flwyddyn drwy gofio diffodd eich dyfeisiau’n gyfan gwbl yn hytrach na’u gadael yn y modd segur.

2. Peidiwch â berwi mwy o ddŵr nag y mae arnoch ei angen

Gallwch arbed £8 y flwyddyn ar eich bil trydan drwy beidio â gorlenwi’r tegell.

3. Coginiwch bethau’n araf

I arbed arian (a lleihau’r angen i goginio pan fyddwch yn cyrraedd adref ar ôl bod yn y gwaith), rhowch gynnig ar ddefnyddio popty araf sy’n coginio bwyd drwy gydol y dydd – mae popty o’r fath yn defnyddio tua’r un faint o ynni â bỳlb golau.

4. Golchwch lwyth cyfan o ddillad brwnt

Nid yw gosodiadau ar gyfer hanner llwyth yn arbed fawr ddim ynni, felly mae golchi llwyth cyfan yn fwy effeithlon o lawer. Ceisiwch olchi dillad yn llai aml (ond gan olchi mwy ar y tro).

5. Treuliwch lai o amser yn y gawod

Bydd hynny’n arbed dŵr i chi yn ogystal â’r ynni sy’n angenrheidiol i’w dwymo.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →