Ymunwch â ni am ginio ac i glywed beth y mae ateb wedi’i gyflawni a pha heriau yr ydym wedi’u hwynebu ers i ni gwrdd ddiwethaf yn y Cymanfaoedd Blynyddol ym mis Mai 2023.
Byddwn hefyd yn ystyried y canlynol:
- y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd a beth y bydd yn ei olygu i chi a’ch cartref.
- sut y mae ateb yn cyflawni rhaglen waith i wneud yn siŵr bod eich cartref a’ch cymuned yn lle gwych i fyw a ffynnu ynddo.
- beth y mae ateb wedi bod yn ei wneud i ddarparu cartrefi mwy gwyrdd a mwy effeithlon o ran ynni, a beth yw ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac yn agored i holl gwsmeriaid ateb.
Bydd yna ginio blasus a llawer o de, coffi, bisgedi a chacen. Dylech nodi unrhyw anghenion dietegol wrth archebu eich lle.
Gallwn eich helpu i drefnu amrywiaeth o gludiant, gan gynnwys cludiant i bobl ag anabledd, a gallwn dalu unrhyw gostau cludiant gan gynnwys eich costau os byddwch yn teithio yn eich cerbyd eich hun. Dylech ofyn am yr help hwn wrth archebu eich lle.
Nodwch:
- Mae’r ddau leoliad yn hygyrch
- Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol
- Gallwn gynnig help i ofalwyr
NIFER GYFYNGEDIG O LEOEDD SYDD AR GAEL, FELLY COFIWCH ARCHEBU EICH LLE CYN GYNTED AG SY’N BOSIBL
Gallwch archebu eich lle ar-lein yma
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Ali Evans (Cydlynydd Ymgysylltu)
- 01437 774766 / 07500 446611
- [email protected]
Sue Mackie (Arweinydd y Tîm Datblygu Cymunedol)
- 0800 854 568
- [email protected]
Os hoffech ofyn unrhyw gwestiwn am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.