Arolygon

Dyma ganllaw syml i’r modd y mae ein harolygon yn dylanwadu ar newid yn ateb, yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn yr ydym wedi’i wneud mor belled.

1. Bob ryw fis neu ddau, byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid i nodi maes gwahanol ar gyfer gwella yn ateb; yna byddwn yn gwahodd pob un o gwsmeriaid ateb i gwblhau arolwg ynglŷn â’r pwnc hwnnw.

2. Byddwn yn cymryd yr holl ganlyniadau sy’n dod i law yn ystod yr arolwg a bydd ein Grŵp Cynllunio Arolygon, ein Fforwm Cwsmeriaid a staff ateb yn cydweithio i greu camau gwella y bydd staff ateb yn bwrw ati wedyn i weithio arnynt a’u cyflawni. 

3. Yn nes ymlaen, byddwn yn ysgrifennu Adroddiad Diweddaru 6 Mis am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y gwaith hwnnw, sy’n dangos sut y mae eich adborth gwreiddiol drwy’r arolwg yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau y mae ateb yn eu darparu i’w gwsmeriaid.

Os oes gennych unrhyw adborth yr hoffech ei gyfrannu i’r fenter Ymgysylltu, defnyddiwch y ffurflen hon.

Yn ôl i’r dudalen Cymryd Rhan

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →