Arweiniad ynghylch trefnu Parti Stryd ar gyfer y Jiwbilî

Ym mis Mehefin eleni, Ei Mawrhydi’r Frenhines fydd y gyntaf o holl Frenhinoedd a Breninesau Prydain i ddathlu Jiwbilî Blatinwm ar ôl 70 mlynedd o wasanaeth.

I ddathlu hynny, mae cymunedau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod penwythnos hirach nag arfer a fydd yn ŵyl banc arbennig, o ddydd Iau 2 Mehefin i ddydd Sul 5 Mehefin.

Os ydych yn meddwl cynnal parti stryd, bydd angen i chi ystyried ambell beth.

Ewch i https://www.streetparty.org.uk/ i gael cyngor ac arweiniad ynghylch cynllunio eich digwyddiad.

Ewch i https://www.gov.uk/government/publications/your-guide-to-organising-a-street-party/your-guide-to-organising-a-street-party i ddarllen am yr hyn y mae pobl yn meddwl bod yn rhaid iddynt ei wneud i drefnu parti, a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud mewn gwirionedd.

Yw eich digwyddiad yn barti stryd neu’n ddigwyddiad mwy o faint na hynny?

Os ydych yn bwriadu gofyn i Gyngor Sir Penfro am ganiatâd i gau ffordd, bydd angen i chi anfon cais i [email protected] erbyn 22 Ebrill. Ewch i https://www.sir-benfro.gov.uk/ystafell-newyddion/ydych-chin-cynllunio-parti-stryd-ar-gyfer-y-jiwbili-platinwm-gwnewch-gais-i-gau-eich-stryd-nawr

Yn olaf, cofiwch roi gwybod i ni, yn enwedig os ydych yn bwriadu gofyn i’r Cyngor gau ffordd. Anfonwch ebost atom [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Tîm Cymorth o ran Tai.

Cyhoeddwyd: 17/04/2022