ateb a Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn cefnogi Pecynnau Cadw’n Gynnes yn ystod y Gaeaf unwaith eto eleni

Mae aelodau o dimau Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac ateb yn arwain y gwaith o ddosbarthu Pecynnau Cadw’n Gynnes yn ystod y Gaeaf i aelwydydd ledled Sir Benfro unwaith eto eleni, er mwyn helpu pobl sy’n byw mewn oerfel ac sy’n cael trafferth ymdopi â chostau byw uwch.

Mae’r gwaith o ddosbarthu’r pecynnau cadw’n gynnes yn rhan o’r ymgyrch Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach a gaiff ei arwain gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.

Meddai Jayne O’Hara, “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro unwaith eto eleni. Mae’r pecynnau cadw’n gynnes yn ffordd syml ac ymarferol o gadw’n gynnes ac yn iach. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu i sicrhau bod y gwaith yn digwydd.”

Mae pob pecyn yn cynnwys ystod o eitemau sydd wedi’u darparu gan Wales & West Utilities i helpu pobl i gadw’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.

I sicrhau bod y pecynnau cadw’n gynnes yn cyrraedd y sawl a fyddai’n cael y budd mwyaf ohonynt, mae’r pecynnau ar gael i bobl a gaiff eu hatgyfeirio yn unig. Nid oes modd i bobl eu hatgyfeirio eu hunain.

Os hoffech gael Pecyn Cadw’n Gynnes yn ystod y Gaeaf, gall cwsmeriaid ateb gysylltu â’u Cydlynydd Atebion o ran Tai neu’u Cydlynydd Byw’n Annibynnol drwy ffonio 0800 854 568 neu anfon ebost i [email protected]

Gall pobl nad ydynt yn gwsmeriaid i ateb, a phobl 60 oed neu hŷn, gysylltu â Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru drwy ffonio 01437 766 717 neu anfon ebost i [email protected]

Os nad ydych yn un o gwsmeriaid ateb neu os nad ydych yn gymwys i gael gwasanaeth gan Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, bydd angen i chi ofyn i weithiwr proffesiynol sy’n eich cynorthwyo gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro, drwy ffonio 01437 723660 neu anfon ebost i [email protected], i gael gwybod mwy.

Yn y llun uchod, o’r chwith i’r dde: Elaine – Gweinyddwr Gwirfoddolwyr, Jayne – Pennaeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, Amy – Arweinydd y Tîm Byw’n Annibynnol.

03/12/2023