ateb yn ymuno â’r Banc Data Cenedlaethol ac yn gallu cynorthwyo cwsmeriaid y mae angen mynediad i’r rhyngrwyd arnynt.
Mae ateb wedi ymuno â’r Banc Data Cenedlaethol gan Sefydliad Good Things ac yn gallu rhoi cardiau SIM â data am ddim i bobl sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Maent yn 18+ oed, ac
- Maent yn dod o aelwyd ag incwm isel
ac sy’n gallu nodi ‘Cywir’ fel ateb i un o’r datganiadau canlynol:
- Does gen i ddim mynediad i’r rhyngrwyd gartref neu mae’r mynediad sydd gennyf i’r rhyngrwyd gartref yn annigonol
- Does gen i ddim mynediad i’r rhyngrwyd pan fyddaf oddi cartref neu mae’r mynediad sydd gennyf i’r rhyngrwyd pan fyddaf oddi cartref yn annigonol
- Ni allaf fforddio fy nghontract neu fy nhaliad misol presennol
Mae’n debyg i ‘fanc bwyd’ ond mai banc data ar gyfer cysylltu â’r rhyngrwyd ydyw.
Meddai Andrew Jenkins, Cydlynydd Lles Cymunedol ateb, “Dim ond cynyddu wnaiff y gagendor digidol wrth i fwy o bethau fod ar gael ar-lein yn unig bob dydd. Rydym yn falch iawn o fod yn un o ddosbarthwyr Sefydliad Good Things, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at helpu pobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio mynd ar-lein.”
Os ydych yn adnabod rhywrai sydd mewn angen gwirioneddol ac yr ydych yn credu y gallem eu helpu, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio 0800 854 568.