Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy o Wobrau Diogelwch a Chydymffurfio 2021 y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP). Mae Linzi Laugharne, Cydlynydd Cynnal a Chadw a Chydymffurfio, wedi cael ei henwebu ar gyfer y Wobr i Seren Newydd, sy’n cydnabod aelodau o dimau am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Yn ôl gwefan yr ASCP, diben y wobr yw gwobrwyo unigolyn arbennig sy’n gwneud gwahaniaeth yn ei sefydliad drwy gyflawni gwelliannau ar gyfer preswylwyr neu weithio tuag at sicrhau newid er gwell yn y diwydiant.
Rydym hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Partneriaeth a Chydweithrediad y Flwyddyn, a hynny am ein gwaith gyda chwmni Propellor a’n helpodd i ddatblygu dangosfwrdd cydymffurfio (gyda data amser real) sy’n sicrhau bod ein cofnodion am brofion diogelwch yn gywir ac yn gyfredol.
Mae Linzi yn esbonio sut y daeth y bartneriaeth i fod:
“Yn ystod cynhadledd y Gymdeithas Rheolwyr Diogelwch Nwy (AGSM), cawsom gyfle i gwrdd â Propeller a roddodd drosolwg o’r system i ni ar ei stondin. Gwnaeth y system, a oedd yn ymddangos yn un mor hawdd a syml, argraff dda arnom yn syth. Yn dilyn hynny, gwnaethom gadw mewn cysylltiad â’r cwmni a meithrin perthynas ardderchog ag ef, a arweiniodd at lansio’r system y llynedd.
Mae’r tîm sy’n gyfrifol am weinyddu’r elfen gydymffurfio yn canmol y system i’r cymylau. Mae wedi arbed cymaint o amser a chymaint o ymdrech i ni – o gynhyrchu swp o apwyntiadau ar gyfer rhoi gwasanaeth i offer ac anfon negeseuon testun neu greu llythyrau, i reoli gwaith cydymffurfio a chreu adroddiadau yn ei gylch.
Mae gwahaniaeth enfawr rhwng y ffordd roeddem yn teimlo cyn defnyddio Propeller a’r ffordd rydym yn teimlo’n awr!”
Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Ddiogelwch a Chydymffurfio 2021 yr ASCP yng Nghanolfan Ryngwladol Telford gyda’r nos ar 23 Medi 2021.
Dyma’r unig wobrau sydd ar gael i dimau diogelwch a chydymffurfio yn y sector tai cymdeithasol a’r sector rheoli cyfleusterau.
Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at sicrhau bod y gymdeithas dai yn cael ei henwebu ac yn cyrraedd y rhestr fer. Pob lwc, gan obeithio’r gorau!