Rydym yn falch iawn o allu cefnogi 11 aelod o’r tîm a fydd yn mynychu Rhaglen Datblygu Gyrfa i Fenywod, a gaiff ei rhedeg gan Chwarae Teg. Ers 1992, mae Chwarae Teg wedi bod yn gweithio i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu meithrin eu sgiliau a datblygu eu gyrfa.
Datblygwyd y rhaglen hon mewn ymateb i ystadegau a oedd yn dangos bod gwir angen cefnogi menywod yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa – 8% o fenywod cyflogedig yng Nghymru sydd mewn swyddi rheoli, o gymharu â 12% o ddynion.
Bydd y rhaglen yn helpu i wella sgiliau arwain a meddwl yn strategol yr aelodau hyn o’r tîm, er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ac yn gadarnhaol ynghylch cyflawni eu nodau o ran gyrfa.
Rydym yn dymuno’n dda iddynt ac yn edrych ymlaen yn fawr at glywed yr hanes!
Diolch i Chwarae Teg am roi gwybod i ni am y cyfle gwych hwn.
Gallwch gael gwybod mwy am yr hyn y gall Chwarae Teg ei wneud i chi drwy fynd i’r wefan https://chwaraeteg.com/