ateb yn 3 oed

Cafodd ateb ei lansio dair blynedd yn ôl, a’r weledigaeth oedd cyflawni mwy er budd y cwsmeriaid a’r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu. Yn ystod y tair blynedd dan sylw, rydym wedi cymryd rhai camau cadarnhaol tuag at wireddu’r datganiad hwnnw – camau sy’n amrywio o fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwella cartrefi ac adeiladu rhai newydd, i fuddsoddi yn y timau sy’n darparu ein gwasanaethau ac yn y meddalwedd newydd ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid, a fydd yn cael ei lansio’n fuan.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’n cymunedau, a bu’n rhaid i ni addasu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau allweddol y mae eu hangen ar ein cwsmeriaid. Llwyddwyd i wneud hynny o ganlyniad i barodrwydd tîm ateb a’n cwsmeriaid i ddeall a bod yn hyblyg, ac mae’n golygu bod y rhan fwyaf o’n gwasanaethau ‘normal’ yn dal i gael eu darparu.

Yn union fel pe bai wedi’i gynllunio, bydd rhywun yn symud i mewn i’n 3,000fed cartref y mis hwn, sy’n dipyn o gamp ac yn arwydd o’n hawydd i barhau i wneud mwy. Rydym wedi cadw at ein hymrwymiad i renti fforddiadwy, drwy sicrhau bod codiadau rhent yn cyd-fynd â chwyddiant neu’n is na chwyddiant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae ateb ar daith, sy’n golygu bod yn rhaid i ni wrando, deall a gwella bob amser os ydym am fynd i’r afael â heriau ein gweledigaeth a bennwyd dair blynedd yn ôl.

Pen-blwydd hapus yn 3 oed i bob un o gwsmeriaid, cymunedau a phartneriaid ateb.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr