ateb yn cynnal diwrnod cymunedol o hwyl yn Steynton

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd ateb ddiwrnod cymunedol o hwyl yn Plas Peregrine, Pen Puffin a Stryd Shearwater yn Steynton, Sir Benfro, a oedd yn ddiwrnod diddorol a bywiog.

Llwyddodd y digwyddiad hwn a oedd yn rhan o’r fenter gymunedol “Ymgysylltu i Wella” i ddenu dros 60 o gwsmeriaid ateb, yn ogystal ag amryw aelodau o dîm ateb a sefydliadau sy’n bartneriaid iddo.

Roedd y diwrnod o hwyl yn gyfle gwych i gwsmeriaid ryngweithio’n uniongyrchol â thimau ateb, ac yn gyfle iddynt fynd i’r afael â’u pryderon wyneb yn wyneb. Meddai un cwsmer wrth Daria, un o’n Cydlynwyr Tai: “Roedd yn braf gallu siarad â staff o adrannau penodol, a thrafod ein pryderon yn uniongyrchol â’r bobl sy’n gweithio yn y meysydd hynny.”

Bu darparwyr allanol yn cymryd rhan yn y digwyddiad hefyd, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau a chymorth. Meddai un o’r darparwyr: “Rydyn ni yma ac yn barod i helpu; y peth anodd yw cyfleu’r neges honno i bobl.” Mae hynny’n amlygu pwysigrwydd digwyddiadau fel y rhain o safbwynt sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr yn fwy hygyrch i’r gymuned.

Roedd y diwrnod yn llawn gweithgareddau a gwasanaethau amrywiol a oedd yn cynnwys:

  • Gweithgareddau chwaraeon
  • Gwasanaeth ailgylchu Cyngor Sir Penfro
  • Cymorth o ran iechyd meddwl
  • Cymorth o ran rhifedd
  • Cyngor ynghylch gyrfaoedd a chwilio am swyddi
  • Arddangosiadau gwaith coed
  • Cyfle i dynnu’r gelyn
  • Cyfle i ymgysylltu â’r gwasanaeth tân a swyddogion heddlu cymunedol
  • Mentrau’r Gwasanaeth Ieuenctid
  • Gwybodaeth am iechyd cyhoeddus
  • Cysylltwyr Trafnidiaeth
  • Cymorth o ran Cysylltwyr Teuluol

Mwynhaodd ein cwsmeriaid amrywiaeth o weithgareddau, ac roedd y naws drwyddi draw’n eithriadol o obeithiol er gwaetha’r glaw, gydag ysbryd cymunedol pawb i’w weld yn amlwg. Roedd y bwyd gwych gan The Bearded Chefs a’r bwffe a ddarparwyd gan y gymuned yn help mawr hefyd!

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddiwrnodau cymunedol o hwyl ac at helpu ein cymunedau i gysylltu â’i gilydd a gweld pa gymorth sydd ar gael iddynt.

Os hoffech chi gynnal rhywbeth ar gyfer eich cymuned ateb, ac os hoffech gael help gan ateb i wneud hynny, cysylltwch â’n tîm datblygu cymunedol:

Sue Mackie [email protected]

Ali Evans [email protected]

Neu ffoniwch ateb ar 0800 854568.

Cyhoeddwyd: 07/08/2024