Ddydd Iau diwethaf (19 Hydref 2023), cafodd Cymanfa Les ateb ei chynnal yn Neuadd y Frenhines, Arberth.
Enw’r Gymanfa Les o’r blaen oedd y Gynhadledd Costau Byw, ac mae’r digwyddiad blynyddol hwn sy’n rhad ac am ddim yn rhoi cyfle i chi, ein cwsmeriaid, fynegi eich barn am yr hyn sy’n bwysig i chi fel bod modd i ni ganolbwyntio ar beth y gallwn ni a’n partneriaid ei wneud i hybu eich lles drwy wella ansawdd eich bywyd.
Roedd nifer o sefydliadau a mudiadau cymunedol yn bresennol ar y diwrnod hefyd i gynnig cyngor a chymorth defnyddiol – megis Hwb Cymunedol Sir Benfro, Age Cymru, Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro, yr Heddlu, Cysylltwyr Cymunedol, FRAME, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro a Cyngor ar Bopeth Sir Benfro.
Mewn trafodaeth agored a arweiniwyd gan Dave Tovey (Pennaeth Cwsmeriaid ateb), soniodd ein cwsmeriaid am y problemau a’r pwysau sy’n effeithio arnynt o ran yr argyfwng costau byw presennol, er enghraifft:
- Rheoli biliau tanwydd ac ynni
- Problemau o ran effeithlonrwydd ynni eiddo hŷn
- Paneli solar – dydyn ni ddim yn gwybod sut mae cael budd ohonynt
- Cyflwr eiddo
- Gwaredu ac ailgylchu gwastraff
- Mynd ar-lein a chost hynny
- Mannau a rennir dan do – llawer o wres yn cael ei wastraffu
- Dymuniad i gael mwy o wybodaeth am fesuryddion clyfar
- Ynni – pryderon am ddebyd uniongyrchol
- Pa waith sydd yn yr arfaeth, a phryd y bydd yn digwydd
- Llygod mawr
Mae’r trafodaethau hyn yn amhrisiadwy i ni fel y gallwn glywed am eich profiadau, eich safbwyntiau a’ch syniadau er mwyn helpu eraill a gwella’r hyn a wnawn.
Roedd grwpiau gweithdai’r prynhawn yn fodd i gwsmeriaid ganolbwyntio ar y materion sy’n flaenoriaeth, y soniwyd amdanynt wrth amrywiaeth eang o aelodau allweddol o dîm ateb. Roedd llawer o’r swyddogion hynny mewn sefyllfa i fynd i’r afael yn uniongyrchol â phryderon penodol pobl, a dod o hyd i atebion iddynt yn y fan a’r lle.
Er mai diwrnod i ystyried heriau ac archwilio atebion oedd hwn, daeth Joan Jaap – un o gwsmeriaid ateb – â’r cyfarfod i ben mewn modd annisgwyl drwy ddatgan, wrth i bawb ddechrau rhoi pethau i gadw, “Rwy’n gwybod ein bod wedi sôn llawer am ein problemau heddiw, ond rhaid i fi ddweud bod ateb yn landlord gwych ac fy mod i’n teimlo yn ffodus iawn o fod yn byw yn un o gartrefi ateb.”
Diolch o galon i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac a sicrhaodd fod y diwrnod yn un mor llwyddiannus.
Os hoffech chi ymwneud â gwaith ateb, ewch i’r dudalen Ymgysylltu i Wella ar y we. Yno, fe welwch chi fanylion am ein fforwm cwsmeriaid, ein grŵp cynllunio arolygon, a llawer mwy.