ateb yn ennill Gwobr Gynhwysiant o fri ym maes Plymio a Gwresogi

Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr ‘Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant’ y Gymdeithas Contractwyr Plymio a Gwresogi (APHC), a noddwyd gan Bristan.

Nod yr wythnos, a drefnir bob blwyddyn gan APHC, yw codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau sydd yn y diwydiant plymio a gwresogi, a rhoi sylw ar yr un pryd i’r busnesau plymio niferus sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ar draws y DU.

Dim ond saith categori oedd i’w cael ac roedd y safon yn uchel, felly roedd yn anrhydedd i ateb fod wedi’i ddewis yn Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gymdeithas ar gyfer 2023.

Fel yr esbonia Tom Clode, Arweinydd y Tîm Plymio:

“Yng Ngrŵp ateb mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o’n DNA. Yn ystod y 18 mis diwethaf, cafwyd ymgyrch i wella a datblygu ein dull o ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a oedd yn cynnwys lansio ein Cynllun Cyflawni ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym hefyd wedi llofnodi adduned Gweithredu, Nid Geiriau Tai Pawb i roi terfyn ar anghydraddoldeb hiliol ym maes tai.

“Yn wreiddiol cafodd Libby Montgomery, ein prentis plymio a gwresogi, ei lleoli gydag ateb drwy Gynllun Prentisiaeth a Rennir Cyfle, a’r llynedd gwnaethom benderfynu ei chyflogi’n uniongyrchol yn un o brentisiaid ateb. Mae Libby yn gaffaeliad mawr i ateb a gall fwynhau dyfodol llewyrchus yma, ac mae ein cwsmeriaid yn hoff iawn ohoni!

“Yn gyffredinol ni chaiff menywod eu cynrychioli’n ddigonol mewn swyddi crefftwyr, ac rydym o’r farn bod dyletswydd arnom i helpu i chwalu’r ffiniau a galluogi’r gymdeithas i feddwl yn wahanol am fenywod mewn swyddi o’r fath. Os ydym am lwyddo i wneud hynny, mae’n rhaid i fenywod weld menywod eraill yn gweithio yn y proffesiynau hyn.”

Un sector yn unig o blith llawer y mae gwaith Grŵp ateb yn ymwneud â nhw yw’r diwydiant plymio a gwresogi, ond rydym yn falch bod ein timau drwyddi draw yn mabwysiadu’r un agwedd at gynhwysiant.

Rydym yn hynod o falch o fod yn cefnogi menywod mewn diwydiant, yn enwedig Libby ar ei siwrnai o fod yn brentis i fod yn beiriannydd plymio a gwresogi hollol gymwys. Llongyfarchiadau i Tom, Libby, Dan P, Stefan, Liam, Matthew, Patrick, Lewis a Dan C.

Cyhoeddwyd: 14/11/2023